Croeso i GwE

GwE yw gwasanaeth gwella ysgolion rhanbarthol gogledd Cymru sydd yn gweithio ochr yn ochr â ac ar ran awdurdodau lleol gogledd Cymru – Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn.

Craidd ein gwaith yw uchelgais i weld yr ysgolion a’r sefydliadau yr ydym ni’n gweithio gyda nhw yn cyflawni eu dyheadau a gweld pob dysgwr yn llwyddo.

Yn Gymry balch ac â gwybodaeth ryngwladol, byddwn yn cefnogi ein hysgolion i fod yn sefydliadau dysgu llwyddiannus a hyderus. Cydweithiwn i sicrhau bod ein holl ddysgwyr yn cael yr addysg y maent yn ei haeddu, a hynny mewn amgylchedd gofalgar, er mwyn iddynt allu bod yn unigolion galluog a gwydn sy’n gwireddu eu llawn botensial beth bynnag eu hil, rhyw, cefndir a chred. Safwn yn erbyn hiliaeth ac unrhyw fath o wahaniaethu.