“Arhoswch yn ddiogel, byddwch yn ddiogel”

“Arhoswch yn ddiogel, byddwch yn ddiogel”: deall eich cyfrifoldebau proffesiynol

 

 

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), yr awdurdod rheoli ar gyfer 7 grŵp sy’n ymwneud ag addysg a hyfforddiant yng Nghymru, wedi delio gyda dros 2,000 o achosion lle mae Priodoldeb ymarferydd i Ymarfer wedi’i gwestiynu.

Bydd y sesiwn anghenrheidiol hon ar gyfer ymarferwyr a’r rhai sydd â chyfrifoldeb am staff yn eich cynorthwyo i gadw eich priodoldeb i ymarfer trwy:

  • ddod i ddeall Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol y CGA
  • trafod enghreifftiau o achosion go iawn ar bynciau megis perthnasau amhriodol, cyfrynghau cymdeithasol, atal dysgwyr a lladrad o’r ysgol
  • archwilio pa ymddygiad sy’n briodol y tu allan i’r ysgo, gan ddefnyddio enghreifftiau o achosion go iawn lle mae ymarferwyr wedi mynd yn erbyn safonau’r CGA
  • manylu ar pam na chaiff rhai ymarferwyr gofrestru gyda’r CGA
  • cyflwyno canllawiau poblogaidd y CGA ar arfer dda mewn meysydd megis defnydd priodol o’r cyfryngau cymdeithasol, cynnal profion, asesu, arholiadau a goruchwyliaeth

MANYLION Y SESIYNAU

SESIWN DYDDIAD AMSER LLEOLIAD DOLEN I GOFRESTRU
1. Dydd Mawrth, 5 Rhagfyr 2017 1:30yp – 3:30yp Tŷ Menai, Bangor Cofrestrwch yma!
2. Dydd Mercher, 6 Rhagfyr 2017 9:30yb – 11:30yb OpTIC (Ystafell Gynhadledd) Cofrestrwch yma!
3. Dydd Mercher, 6 Rhagfyr 2017 1:30yp – 3:30yp Prifysgol Glyndŵr (Ystafell Erddig, Prif Adeilad) Cofrestrwch yma!