Canllawiau ar gyfer Lleihau Llwyth Gwaith Athrawon

Canllawiau ar gyfer Lleihau Llwyth Gwaith Athrawon

Mae GwE yn cefnogi‘n llawn y canllawiau a lansiwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams, a Phrif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg, Meilyr Rowlands, 14 Medi, 2017.

Mae 18 o sefydliadau, yn cynnwys Estyn, Llywodraeth Cymru, consortia rhanbarthol ac undebau amrywiol wedi cydweithio ar y prosiect hwn sy’n ymrwymo i helpu athrawon gael cydbwysedd o ran eu llwyth gwaith. Mae’r canllawiau yn amlygu’r hyn y dylai athrawon ei wneud, a’r hyn na ddylent ei wneud, wrth gynllunio gwersi, marcio ac asesu, a chasglu data, a hefyd yn egluro disgwyliadau Estyn.

Bydd y canllaw poced yn cael ei ddosbarthu i bob athro cofrestredig yng Nghymru, a bydd pob ysgol yn cael poster ar gyfer yr ystafell staff. Maent hefyd ar gael isod:

Bydd cyflwyniadau yn digwydd yn rhanbarthol yn ystod y tymor mewn fforymau gwahanol i benaethiaid er mwyn codi ymwybyddiaeth ymhellach o’r agenda genedlaethol ar gyfer lleihau baich gwaith athrawon. Mae copi o’r cyflwyniad isod er gwybodaeth.