Categoreiddio Cenedlaethol

CATEGOREIDDIO CENEDLAETHOL 2019-2020

Bydd y system genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion yn parhau yn 2019-2020. Mae’r ddogfen ganllaw atodol hon yn rhoi cyngor i ysgolion, consortia ac ymgynghorwyr cefnogi gwelliant ar sut y dylid cymhwyso’r farn ar y gallu i wella a’r penderfyniad ar y categori cymorth mewn achosion ble mae angen ystyried ffactorau cyd-destunol a ffactorau eraill.

 

Canllaw Categoreiddio 2019-2020

 

Amserlen Categoreiddio Rhanbarthol (GwE)

  • Trafodaeth barhaus gyda’r Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant mewn perthynas â’r farn ar Gam 2 a Cham 3 y broses gategoreiddio
  • Ffurflenni F1 i’w cyflwyno erbyn 20.11.19
  • Cymedroli Rhanbarthol ar 04.12.19
  • Dilysu Cenedlaethol  –  yn gynnar ym mis Ionawr 2020
  • Categoreiddio i’w gyhoeddi ar ‘Fy Ysgol Leol’ ddiwedd mis Ionawr 2020

Bydd y broses Gategoreiddio Cenedlaethol yn parhau ar gyfer 2018-19. Mae’r canllawiau atodol yn rhoi cyngor i ysgolion, consortia ac ymgynghorwyr cefnogi gwelliant ar y ffordd y dylid cymhwyso’r dyfarniad mewn perthynas â’r gallu i wella a’r penderfyniad mewn perthynas â’r categori cymorth mewn achosion lle y gall fod angen ystyried ffactorau cyd-destunol a ffactorau eraill.

Canllaw Categoreiddio 2018-2019

Amserlen Categoreiddio Rhanbarthol (GwE)

  • Trafodaethau parhaus gyda’r Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant parthed barnau ar Gam 2 a Cham 3 o’r broses gategoreiddio
  • Ffurflenni F1 i’w cyflwyno erbyn 20.11.18
  • Cymedroli Rhanbarthol ar 04.12.18
  • Gwirio Cenedlaethol – dechrau Ionawr 2019
  • Cyhoeddi’r categoreiddio ar ‘Fy Ysgol Lleol’ erbyn diwedd Ionawr 2019