Gwaith Ymchwil Gweithredol Cynradd

Ennyn diddordeb grwpiau o ddysgwyr sy’n tangyflawni mewn mathemateg gan ddefnyddio IZak9

Gwahoddir ceisiadau gan ysgolion unigol/grwpiau o ysgolion/clwstwr o ysgolion, i gymryd rhan mewn prosiect cyffrous sy’n defnyddio’r adnodd masnachol IZak9 i ddatblygu rhuglder disgyblion gyda rhifau, eu sgiliau datrys problemau a’u gallu i resymu, gan ddefnyddio dull arloesol a chydweithredol.

Bwriedir y prosiect yn benodol ar gyfer athrawon blwyddyn 5 a 6, a bydd athrawon llwyddiannus yn arwain eu gwaith ymchwil gweithredol eu hunain i wella sut y caiff mathemateg ei dysgu a’i haddysgu.

Crynodeb o’r Cynnwys

Er mwyn cymryd rhan, bydd angen i ysgolion gael yr adnodd IZak9Os oes angen, mae gan GwE becynnau IZak9 i’w benthyca i ysgolion dros gyfnod y prosiect.

  • Caiff yr ysgolion sy’n cymryd rhan ddigon o gyfle i weithio gyda’i gilydd ar ddatblygu a chyflwyno gweithgareddau dysgu ac addysgu IZak9.
  • Gwella’r modd yr addysgir ac y dysgir cysyniadau mathemategol a sgiliau rhesymu
  • Gwella dealltwriaeth gysyniadol disgyblion
  • Datblygu gallu disgyblion i roi gweithdrefnau a datrysiadau mathemategol mewn geiriau, gan ddefnyddio’r termau a’r eirfa gywir

Deilliannau

  • Deall yn well y camau a’r tasgau sy’n angenrheidiol er mwyn i ddisgyblion ddatblygu rhuglder a sgiliau rhesymu o fewn darpariaeth fathemategol sydd wedi’i chyfoethogi
  • Gwella cyfathrebu mathemategol
  • Ennyn diddordeb, yn enwedig grwpiau sy’n tangyflawni e.e. PYD, bechgyn a merched a MaTh.

Hyfforddiant

Bydd un diwrnod hyfforddiant cychwynnol. Anogir ysgolion i gydweithio dros gyfnod y prosiect, a threfnir diwrnod dilynol i’r ysgolion sy’n cymryd rhan gael rhannu arferion a thrafod IZak9 yng nghyd-destun cefnogi’r modd y dysgir ac yr addysgir mathemateg yn eu hysgolion eu hunain.

Bydd lle i 25 o athrawon, ar y mwyaf, ar draws y rhanbarth, felly y cyntaf i’r felin…

DYDDIAD CAU: DYDD IAU, 25 IONAWR 2018

Sylwch mai drwy gyfrwng y Saesneg y darperir yr hyfforddiant cychwynnol gan gynrychiolydd o IZak9.

Bydd cyllid ar gael i’r ysgolion. 

Dyddiadau

2ail o Chwefror, 2017
14eg o Fawrth, 2017
Lleoliadau i’w cadarnhau

Bydd gofyn i ysgolion gasglu data perthnasol a rhannu eu canfyddiadau ar ffurf astudiaeth achos, a gaiff ei chynnwys o fewn ‘Ysgol GwE.’

Cwblhewch y ffurflen i ddatgan eich diddordeb yn y rhaglen. Unrhyw gwestiynau e-bostiwch llythrenneddarhifedd@gwegogledd.cymru

AM RAGOR O WYBODAETH: http://www.izak9.com