Newidiadau i Fesurau Perfformiad yng Nghyfnod Allweddol 4 sy’n Effeithio ar Gofrestru’n Gynnar

Y Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus

Education and Public Services Group

 

 

At sylw:

Rheolwyr Gyfarwyddwyr y Consortia Addysg Rhanbarthol

Cyfarwyddwyr Addysg

 

Copi at:

Cydgysylltwyr Rhanbarthol 14-19

Penaethiaid Ysgolion Uwchradd

Prif Arolygydd ei Mawrhydi

 

19 Hydref 2017

Annwyl Gyfeillion

Newidiadau i Fesurau Perfformiad yng Nghyfnod Allweddol 4 sy’n effeithio ar gofrestru’n gynnar

Ar 16 Hydref, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg newidiadau i fesurau perfformiad Cyfnod Allweddol 4 o ganlyniad i gynnydd sylweddol yn nifer y dysgwyr sy’n sefyll arholiadau TGAU yn gynnar yng Nghymru.

O dan fesurau perfformiad Cyfnod Allweddol 4 ar hyn o bryd, canlyniad gorau’r cymhwyster sy’n cyfrif. Eglura datganiad Ysgrifennydd y Cabinet (dolen i’r Cofnod) y bydd hyn yn newid yn 2019. O 2019 ymlaen, dim ond y canlyniad cyntaf ar gyfer cymhwyster fydd yn cyfrif tuag at fesurau perfformiad yr ysgol. Bydd Cymwysterau Cymru hefyd yn cael gwared â’r cyfyngiad ar ailsefyll arholiadau gan ganiatáu i ysgolion ddewis cofrestru dysgwyr i sefyll TGAU Cymraeg a Saesneg Iaith yn ystod cyfres arholiadau mis Tachwedd o 2018 ymlaen. Dim ond TGAU Mathemateg a Mathemateg-Rhifedd y mae modd eu sefyll yn y gyfres honno ar hyn o bryd.

Bydd y newid hwn yn annog ysgolion i gofrestru dysgwyr ar gyfer arholiadau pan fônt yn hyderus eu bod yn barod i gael y canlyniad gorau posibl. Nid yw’n atal dysgwyr rhag ailsefyll pe bai ysgol neu ddysgwr yn dymuno ceisio gwella eu canlyniadau, ond ni fyddai’r ail ganlyniad yn cyfrif tuag at fesurau perfformiad yr ysgol, hyd yn oed lle bo’r canlyniad yn well.

Mae’r newid hwn yn berthnasol i holl gymwysterau’r dysgwr ni waeth pryd y gwnaeth eu sefyll. Er enghraifft, os yw dysgwr Blwyddyn 10 yn sefyll arholiad Mathemateg am y tro cyntaf ym mis Tachwedd 2017, y canlyniad hwnnw fydd yn cyfrif tuag at fesurau perfformiad yr ysgol yn haf 2019, gan mai dyna fydd canlyniad cyntaf y dysgwr ar gyfer Mathemateg. Ni fydd canlyniadau dilynol yn yr un pwnc yn cyfrif tuag at y mesurau perfformiad, hyd yn oed lle mae’r canlyniadau hyn yn arwain at radd uwch. Bydd y dysgwr yn parhau i allu defnyddio’r canlyniad gorau i fynd ymlaen at ddysgu pellach.

Ni ddylai’r newidiadau hyn i sut y cyfrifir mesurau perfformiad atal ysgolion rhag cofrestru dysgwyr yn gynnar pan fo hynny er lles iddynt. Dyma pam y bydd gan ysgolion fwy o hyblygrwydd o ran cofrestru ar gyfer TGAU Cymraeg a Saesneg Iaith am y tro cyntaf ym mis Tachwedd 2018.

O ran arholiadau mis Tachwedd eleni, mae CBAC wedi cadarnhau y bydd yn dileu ceisiadau cofrestru, os yw’r ysgol yn gofyn iddo wneud hynny, ac ni fydd yn codi’r ffi i sefyll yr arholiad ar fyfyrwyr ym Mlwyddyn 10 a iau yn unig. Y dyddiad cau i ysgolion gyflwyno ceisiadau o’r fath drwy gysylltu â entries@wjec.co.uk yw dydd Iau, 26 Hydref.

Byddwn yn cynnal ymchwil manwl yn benodol ar yr effaith ar ddysgwyr i lywio canllawiau diwygiedig i ysgolion, er mwyn sicrhau y gwneir penderfyniadau am sefyll arholiadau ar sail tystiolaeth gadarn. Bydd canllawiau pellach ar gael erbyn tymor yr haf.

Gallwch weld y newidiadau i fesurau perfformiad Cyfnod Allweddol 4 yn dilyn yr Adolygiad Cymwysterau yma.

A fyddech cystal â rhannu’r wybodaeth hon â’ch cydweithwyr yn yr awdurdodau lleol a’r ysgolion lle bo hynny’n briodol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gynnwys y llythyr hwn, anfonwch e-bost at IMS@llyw.cymru.

Yn gywir

Steve Vincent
Dirprwy Gyfarwyddwr
Effeithiolrwydd Ysgolion