Prosiectau Llafaredd BookTrust Cymru

Fel y gwyddoch rwy’n siŵr, fel rhan o’r ffocws ar hyn o bryd ar lafaredd, mae BookTrust Cymru wedi bod yn edrych ar ffyrdd o ddatblygu ein rhaglenni a ariennir gan Lywodraeth Cymru i wella deilliannau llafaredd.

Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar dreialu Pori Drwy Stori ar gyfer plant oed Meithrin, cefnogi’r rhaglen Pori Drwy Stori gyfredol a threialu cynnig Bocs Llythyrau Blynyddoedd Cynnar ar gyfer plant mewn gofal. Bydd hefyd yn cynnwys ychwanegiad bach gyda phwyslais ar lafaredd i’r pecynnau Dechrau Da (a roddir i deuluoedd fel arfer pan fo plentyn yn 6 mis a 27 mis oed).

Rydym yn anfon y diweddariad hwn at unigolion a nodwyd gan Y Gangen Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu a Chyfrifoldebau Trawsgwricwlaidd er mwyn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y prosiect. Ein prif gyswllt yn Y Gangen yw Joanne Sharp.

Mae croeso i chi gysylltu os oes gennych unrhyw gwestiynau neu yr hoffech rannu syniadau neu awgrymiadau. Rydym yn gwerthfawrogi adborth a mewnbwn gan bartneriaid ar bob agwedd ar ein gwaith a gwyddom fod gwrando ar bartneriaid yn hanfodol i lwyddiant ein gwaith.

Dymuniadau gorau,

Helen Wales

Pennaeth Bro – Cymru, BookTrust Cymru

 

 

Estyniad ar Pori Drwy Stori ar gyfer plant oed Meithrin

Ymgynghoriad:

Yn ystod haf 2017, ymgynghorwyd â dros 200 o gyfranogwyr drwy arolygon, sesiynau grŵp a sgyrsiau ar y ffôn/wyneb yn wyneb. Roedd yr ymgynghoriad yn archwilio barn ar sgiliau llafaredd plant oed Meithrin a’r heriau ac arfer dda ar hyn o bryd. Profwyd hefyd syniadau am estyniad posib i’r rhaglen Pori Drwy Stori.

Ymhlith y cyfranogwyr roedd Ymgynghorwyr Consortia ac Awdurdod Lleol, ymarferwyr ysgol ac arweinwyr cyfnod, ymarferwyr mewn lleoliadau nas cynhelir ac arweinwyr cyrsiau blynyddoedd cynnar mewn addysg uwch. Ymhlith y cyfranogwyr o GwE roedd Vicky Lees, Arweinwyr Llythrennedd Cynradd (yn y sesiynau gweithdy darllen er pleser a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2017), Ysgol Gynradd Rhosymedre, Ysgol Gynradd Pentre ac Ysgol Gynradd Penmorfa. 

Amlygodd yr ymgynghoriad yr angen i fynd i’r afael â sgiliau llafaredd, a bod cefnogi rhieni a gofalwyr i ddeall pwysigrwydd sgiliau llafaredd yn hanfodol. Cafwyd ymateb cadarnhaol iawn hefyd i’r cynnig i ymestyn Pori Drwy Stori ar gyfer plant Meithrin gyda ffocws ar sgiliau llafaredd.

Amlinelliad o’r Prosiect ar gyfer Plant Meithrin:

Bydd yr Estyniad ar Pori Drwy Stori ar gyfer y Meithrin ar sail prif amcanion y rhaglen ar gyfer plant oed dosbarth Derbyn: cefnogi llythrennedd, rhifedd ac ymgysylltu â theuluoedd yn y Cyfnod Sylfaen. Bydd yn canolbwyntio ar ddeilliannau llafaredd.

Bydd ysgolion a lleoliadau sy’n cymryd rhan yn derbyn dwy set o adnoddau treialu Pori Drwy Stori i’w defnyddio gyda phlant oed Meithrin a theuluoedd (3-4 oed). Bydd yr adnoddau yn canolbwyntio ar ddau faes gweithgaredd sy’n cefnogi sgiliau llafaredd : rhigymau a rhannu llyfrau a straeon.

Adnoddau tymor 1 – Mae’n amser rhigwm!:

Nod yr adnoddau hyn yw datblygu gweithgareddau rhannu rhigymau rhwng plant a’u rhieni/gofalwyr. 

Dosbarthwyd adnoddau i ysgolion a lleoliadau sy’n cymryd rhan yn y peilot ym mis Hydref 2017 ar gyfer eu defnyddio yn ystod ail hanner tymor yr hydref.

Adnoddau tymor 2 – Sôn am Lyfr:

Nod yr adnoddau hyn yw datblygu rhannu llyfrau yn rhyngweithiol, yn benodol plant a’u rhieni/gofalwyr yn sgwrsio wrth rannu llyfr. 

Dosberthir adnoddau i ysgolion a lleoliadau sy’n cymryd rhan yn gynnar ym mis Ionawr.

Peidiwch ag oedi rhag cysylltu os hoffech gael samplau am ddim o’r adnoddau yma – helen.wales@booktrust.org.uk

Ysgolion a lleoliadau:

Bydd 500-600 o blant o ysgolion a lleoliadau ar hyd a lled y pedwar Consortiwm yn cymryd rhan yn y peilot hwn.

Mae’r ysgolion a’r lleoliadau a ganlyn o GwE yn cymryd rhan yn y peilot:

Cylch Meithrin Llanddoged, Conwy
Cylch Meithrin Llansannan, Conwy
Grŵp Chwarae Llanfairfechan, Conwy
Ysgol Gynradd Rhosymedre, Wrecsam
Ysgol Gynradd Fictoria, Wrecsam

Cafodd ysgolion eu recriwtio ar sail ymwneud blaenorol â Pori Drwy Stori.

Cafwyd cefnogaeth gan Gwenda Roberts i adnabod lleoliadau nas cynhelir yng Nghonwy yn dilyn ymgynghori ag aelodau AWFPA ym mis Mehefin.

Arfarniad:

Bydd ymgynghorydd annibynnol yn cynnal yr arfarniad terfynol. Mae’n debygol y bydd yn cynnwys arolygon cyn, yn ystod ac ar ôl y prosiect gan rieni a gofalwyr, cyfweliadau strwythuredig gydag ymarferwyr ar adegau penodol yn ystod y prosiect, ymweliadau ag ysgolion a lleoliadau a grwpiau ffocws rhieni/gofalwyr.

Cefnogi llafaredd yn y rhaglen Pori Drwy Stori bresennol ar gyfer y dosbarth Derbyn

Amlygodd yr ymgynghoriad hefyd gysylltiadau cryf rhwng y rhaglen Pori Drwy Stori bresennol ar gyfer y dosbarth Derbyn a deilliannau llafaredd. Rydym hefyd yn datblygu cefnogaeth llafaredd ar gyfer y rhaglen Pori Drwy Stori bresennol, sy’n cynnwys:

  • Ffilmiau byrion ar-lein i ddangos y rhaglen ar waith
  • Sesiynau hyfforddi ar gyfer myfyrwyr AGA/israddedigion ac uwchraddedigion perthnasol
  • Dogfen fer sy’n amlygu’r cysylltiadau rhwng PDS a deilliannau llafaredd y FfLlRh

Cysylltwch â Rachel.lloyd@booktrust.org.uk am wybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer y rhaglen bresennol. 

Cynnal plant mewn gofal yn y blynyddoedd cynnar – Clwb Bocs Llythyrau Piws

Cyflwynwyd y rhaglen Clwb Bocs Llythyrau gyntaf yng Nghymru yn 2009. Nod y rhaglen yw ysbrydoli plant mewn gofal i ddarllen ac ennyn eu diddordeb mewn rhifedd trwy ddarparu llyfrau ac adnoddau addysgol o safon uchel. 

Mae’r Clwb Bocs Llythyrau Piws wedi’i anelu at blant 3-5 oed. O ganlyniad, bydd y peilot yn canolbwyntio ar sut y gall y Clwb Bocs Llythyrau gefnogi gofalwyr plant yr oedran hwn i ennyn diddordeb eu plant mewn darllen a gweithgareddau dysgu, er enghraifft, cynyddu hyder gofalwyr i roi cynnig ar y gweithgareddau hyn a phwysleisio’r cysylltiad rhwng darllen ar y cyd cynnar a siarad a chyfathrebu.

Bydd y prosiect yn rhedeg o fis Hydref tan mis Mawrth a bydd arfarniad allanol ar gael yn ystod gwanwyn/haf 2018.

Bydd cysylltiad rhwng y prosiect a chanfyddiadau dau adroddiad diweddar gan BookTrust:

Reading in Foster Families (a gomisiynwyd gan BookTrust a’i gynnal gan Fiwro Cenedlaethol y Plant) – arolwg drwy Brydain gyfan.

Ymchwil gydag ymarferwyr yng Nghymru: Cymorth i ofalwyr maeth ar ddarllen gyda’u plant – fersiwn Cymraeg a fersiwn Saesneg.

Bydd 132 o blant ar draws Cymru yn cymryd rhan yn y prosiect. Cafodd rhain eu recriwtio trwy wahoddiad agored i bartneriaid Clwb Bocs Llythyrau Awdurdodau Lleol a thrafodaeth gydag arweinwyr Consortia perthnasol.

Mae GwE yn gweithio gydag Ynys Môn, Conwy a Sir Ddinbych. Cafwyd cefnogaeth gan Sharon Roberts o GwE i adnabod partneriaid drwy’r rhwydweithiau cydlynwyr PMG.