Cyflwyniad i Explorify

Wedi ei ddatblygu gan Wellcome Trust…

Cyflwyniad i Explorify

Mae Exporify yn gyfres o weithgareddau digidol gwych am ddim er mwyn cefnogi dysgu gwyddoniaeth mewn ysgolion cynradd. Mae Explorify yn gysylltiedig gyda’r Maes Llafur, yn ennyn diddordeb a chwilfrydedd disgyblion, yn ffordd o ddatblygu eu sgiliau meddwl gwyddonol ac yn adnodd hawdd ei ddefnyddio.

Mae’r rhaglen yn ymwneud â 3 cysyniad y bydd athrawon wrth eu bodd gyda nhw!

Dewis a mynd ati

Y gwaith wedi ei gwblhau ichi gyda gweithgareddau hawdd eu defnyddio gyda dim ond mymryn o waith paratoi – yr oll sydd angen ichi ei wneud ydy dewis!

Y Waw-ffactor

Mae’r gweithgareddau yn ymwneud â lluniau a fideos creadigol o safon gennym ni, y BBC, yr Amgueddfa Wyddoniaeth a mwy!

Wedi’u rhoi ar brawf ac arbrawf

Cysyniadau sy’n berthnasol i’r Maes Llafur ac wedi eu llunio a’u cymeradwyo gan athrawon ac arbenigwyr y byd addysg.

Dewch draw i sesiwn datblygu proffesiynol am ddim yn

  • Ty Menai, Parc Menai ar brynhawn 13 Mawrth 2018
  • Techniquest Glyndwr ar brynhawn 14 Mawrth 2018 i fanteisio ar y canlynol:
  • Dysgu mwy am Explorify
  • Dysgu sut i fanteisio i’r eithaf ar Explorify yn eich ystafell ddosbarth.
  • Rhoi cynnig ar rai o strategaethau Explorify.

Grant cyflenwi o £100 ar gael i’r rheiny sy’n mynychu.

Ymunwch gyda ni am ginio o 12.30yp
Sesiwn Datblygu / Ymgyfarwyddo 1.30 – 3.30yp
I wybod mwy am Explorify – https://explorify.wellcome.ac.uk/

Mae hwn yn gyfle gwych i gael blas ar Explorify ac i chi fedru dychwelyd i’r dosbarth yn teimlo’n frwdfrydig, yn gyffrous ac yn hyderus i fynd ati i ddefnyddio’r gweithgareddau!

I gadw lle – anfonwch e-bost at info@tqg.org.uk yn nodi pa sesiwn hoffech chi gofrestru arno.