Defnydd Effeithiol o Asesu ar gyfer Dysgu i Leihau Baich Gwaith

Defnydd Effeithiol o Asesu ar gyfer Dysgu i Leihau Baich Gwaith – Cyflwyniad i Ysgolion Cynradd ac Arbennig i Ddeunyddiau Cefnogol sy’n cael eu Rhannu’n Genedlaethol

O ganlyniad i dderbyn yr hyfforddiant yma, bydd y mynychwr yn cael mynediad i rwydwaith genedlaethol ar Hwb – ‘Lleihau Baich Gwaith – Reduced Workload’.

Gwahoddiad i un cynrychiolydd o bob ysgol – Pennaeth, Arweinydd Canol, Arweinydd Asesu neu Arweinydd Addysgu

MANYLION

Sesiwn hanner diwrnod, i’w cynnal yn y prynhawn.

YSGOLION

DYDDIAD

LLEOLIAD

AMSER

COFRESTRU

Ynys Môn Dydd Mawrth, 10 Ebrill 2018 Treysgawen 1:15yp – 3:15yp
Gwynedd / Ynys Môn Dydd Llun, 16 Ebrill 2018 Tŷ Menai, Bangor 1:15yp – 3:15yp
Gwynedd Dydd Mawrth, 17 Ebrill 2018 Coed y Brenin 1:15yp – 3:15yp
Conwy / Sir Ddinbych (cyfrwng Saesneg) Dydd Mawrth, 10 Ebrill 2018 Glasdir, Llanrwst 1:15yp – 3:15yp
Conwy / Sir Ddinbych (cyfrwng Cymraeg) Dydd Mercher, 11 Ebril 2018 Glasdir, Llanrwst 1:15yp – 3:15yp
Wrecsam (cyfrwng Saesneg) Dydd Iau, 12 Ebrill 2018 Canolfan Catrin Finch, Wrecsam 1:15yp – 3:15yp
Sir y Fflint (cyfrwng Saesneg) Dydd Llun, 16 Ebrill 2018 Swyddfa GwE, Yr Wyddgrug 1:15yp – 3:15yp
Sir y Fflint / Wrecsam (cyfrwng Cymraeg) Dydd Iau, 19 Ebrill 2018 Swyddfa GwE, Yr Wyddgrug 1:15yp – 3:15yp

NOD

  • Gwella defnydd athrawon o asesu ffurfiannol effeithiol fel ei fod yn cael yr effaith leiaf ar faich gwaith athrawon, ond yn sicrhau yr effaith fwyaf ar gynnydd disgybl.
  • Cynnyddu dealltwriaeth o sut y gall dysgu annibynnol leihau baich gwaith athrawon.
  • Gwerthuso ymarfer cyfredol o ran rhoi adborth i ddisgyblion gan ystyried effaith hyn ar gynnydd disgyblion a baich gwaith athrawon.
  • Teilwra strategaethau ar gyfer adborth effeithiol.
  • Deall sut y mae hyn yn bwrpasol i’r ‘Darlun mawr’ o asesu ffurfiannol / pedagogaeth allweddol o ran Cwricwlwm am oes – Cwricwlwm i Gymru