Cymraeg mewn Blwyddyn - Cwrs Sabothol
cyrsiau sabothol cymru

CYMRAEG MEWN BLWYDDYN - Medi 2018-2019

Cwrs Sabothol

Bydd cyfranogwyr y cwrs yn derbyn hyfforddiant iaith ddwys dros gyfnod o flwyddyn academaidd, fydd yn arwain at ruglder mynegiant a chywirdeb gramadegol o fewn cyd-destun dysgu ac addysgu. Gobeithir y bydd hyn yn arwain at godi safonau a chyrhaeddiad y disgyblion yn y Gymraeg.

Mae amodau a thelerau cyflogaeth yr ymarferwyr yn aros yr un peth tra eu bod yn dilyn y cwrs a disgwylir proffesiynoldeb a phrydlondeb parhaus. Os bydd ymarferwr yn absennol oherwydd salwch neu unrhyw reswm arall mae gofyn ei fod yn cysylltu gyda’i diwtor cyn gynted â phosib. Bydd y tiwtor yn cadw cofnod o unrhyw absenoldebau ac yn eu gwirio gyda’r ysgol. Mae amodau arferol y gweithle (ysgol) yn parhau yn ystod y cwrs hefyd.

Nod y cwrs yw:

  • Addysgu gramadeg a geirfa i ymarferwyr;
  • Datblygu hyder yr ymarferwyr i gynllunio defnydd o’r Gymraeg yn yr ysgol yn unol â gofynion strategol y consortiwm / awdurdod lleol;
  • Rhoi’r adnoddau iaith a’r hyder i ymarferwyr gyflwyno Cymraeg ail iaith i’r disgyblion;
  • Paratoi ymarferwyr i gyflwyno gwersi neu rannau o wersi trawsgwricwlaidd drwy gyfrwng y Gymraeg;
  • Meithrin cywirdeb fel bod athrawon yn cynnig model iaith dda i ddisgyblion;
  • Rhannu arfer dda o ran addysgu Cymraeg ail iaith;
  • Trafod methodoleg addysgu ail iaith;
  • Cynllunio, paratoi a rhannu adnoddau addas yng nghyd-destun datblygiadau diweddar eraill ym maes Cymraeg ail iaith, gan feithrin arweinwyr pwnc blaengar;
  • Cynhyrchu siaradwyr Cymraeg hyderus.

Materion ariannol

  • Mae'r hyfforddiant wedi ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru.
  • Bydd cyfranogwyr y cwrs yn parhau i dderbyn eu cyflog trwy'r awdurdod lleol, a hwn yn cael ei dalu allan o gyllid yr ysgol fel arfer.
  • Bydd ysgolion yn gorfod penodi athro cymwys yn lle'r cyfranogwr am gyfnod penodedig o flwyddyn academaidd llawn gan ddilyn prosesau recriwtio arfer yr awdurdod lleol.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn ad-dalu'r gost lawn o'r gyflogaeth hon (cyflog + costau ychwanegol y gyflogres megis cyfraniadau pensiwn, yswiriant cenedlaethol).
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn cysylltu gyda swyddogion cyllid ysgolion yn yr awdurdodau lleol perthnasol er mwyn trefnu derbyn anfonebau tymhorol.
  • Bydd cyfranogwyr sydd wedi eu cyflogi i weithio'n rhan amser yn derbyn cyflog llawn ar gyfer y flwyddyn academaidd maent yn mynychu'r cwrs, a bydd Llywodraeth Cymru yn ad-dalu'r gost ychwanegol hon.
  • Bydd cyfranogwyr yn derbyn ad-daliad o'u costau teithio ychwanegol wrth fynychu'r cwrs ar gyfradd 45c y filltir h.y. unrhyw filltiroedd o'u cartrefi i'r cwrs sydd yn uwch na'r milltiroedd maent yn teithio o'u cartrefi i'w hysgolion.
  • Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn ad-dalu unrhyw gostau parcio neu dollau (rhaid cyflwyno tocynnau/talebau).

Rolau a Chyfrifoldebau

Isod, ceir amlinelliad o rolau a chyfrifoldebau’r prif gyfranwyr. Disgwylir i’r holl bartïon gydweithio i gyflawni amcanion y prosiect.

Rôl yr athro

  • Mynychu’r cwrs bob dydd. Os bydd achosion o absenoldeb oherwydd salwch neu argyfwng personol, dylid hysbysu’r brifysgol ar unwaith. Os fydd yr absenoldeb yn para mwy na 5 niwrnod dylid cyflwyno papur doctor, yn unol â thelerau ac amodau eu cyflogaeth arferol;
  • Mynychu’r ysgol gartref am ddiwrnod yr wythnos (yn nhymor y gwanwyn 2019) i weithio ar brosiect penodol.
  • Mynychu’r ysgol gartref am ddiwrnod yr wythnos yn ogystal ag ysgol Gymraeg benodol ddiwrnod yr wythnos (yn nhymor yr haf 2019) i weithio ar brosiectau penodol.
  • Cyflawni pob tasg / aseiniad sydd yn cael ei (g)osod a chyflwyno gwaith yn brydlon.
  • Cydymffurfio gyda rheolau a disgwyliadau’r brifysgol.
  • Cydymffurfio gyda Safonau Proffesiynol Athrawon Wrth Eu Gwaith (SAG)
  • Cwblhau a dychwelyd unrhyw waith papur gan Lywodraeth Cymru
  • Cyflwyno hawliadau am ad-daliadau costau teithio i Lywodraeth Cymru yn brydlon.

Rôl yr ysgol gartref

  • Pennu athro cymwys i ymgymryd â rôl yr ymarferwr sy’n cael ei ryddhau.
  • Caniatáu i’r ymarferwr fynychu’r ysgol am ddiwrnod yr wythnos (yn nhymor y gwanwyn a’r haf 2019) i weithio ar brosiect penodol.
  • Cynorthwyo’r ymarferwr wrth iddynt ymgymryd â’r gwaith prosiect drwy sicrhau mynediad at ddogfennau polisi / adroddiadau / adnoddau addas
  • Trefnu bod anfonebau am ad-daliad costau cyflenwi yn cael eu codi a’u cyflwyno i Lywodraeth Cymru ar ddiwedd pob tymor.
  • Sicrhau bod sgiliau iaith Gymraeg yr ymarferwr yn cael eu defnyddio ar ôl iddynt gwblhau’r hyfforddiant a’i gynorthwyo a’i gefnogi i ddatblygu'r rhain yn barhaus er mwyn codi safonau a chyrhaeddiad y disgyblion.

Rôl y Consortiwm Rhanbarthol / Awdurdod Lleol

  • Cydweithio gyda darparwyr yr hyfforddiant er mwyn deall amcanion a strwythur yr hyfforddiant a deall sut gall hwn ddiwallu ac atgyfnerthu cynlluniau’r consortiwm o ran y Gymraeg
  • Adnabod ysgolion addas i gymryd rhan yn y rhaglen, trafod gyda’r penaethiaid ac enwebu athrawon cymwys.
  • Ymgymryd ag ymweliadau â’r cwrs / ysgol gartref / ysgol Gymraeg er mwyn monitro cynnydd yr ymarferwyr a chynnig cefnogaeth briodol
  • Sefydlu perthynas/partneriaeth gydag ysgolion Cymraeg addas a hwyluso trefniadau lleoliad i ymarferwyr yn y drydydd tymor
  • Cynorthwyo’r ymarferwyr i gynnal a datblygu eu sgiliau Cymraeg ar ôl dychwelyd i ddysgu trwy weithredu cynllun ôl-ofalaeth perthnasol.
  • Cynorthwyo’r ysgolion cartref i wneud defnydd o sgiliau ieithyddol yr ymarferwr ar ôl iddynt gwblhau’r hyfforddiant, a hwyluso’r broses o ddatblygu’r Gymraeg yn yr ysgolion.

Os ydych efo diddordeb neu angen gwybod mwy cysylltwch efo Athrawon Ymgynghorol y Gymraeg eich awdurdod NEU Eryl Jones, Canolfan Bedwyr (eryl.jones@bangor.ac.uk) er mwyn sicrhau eich addasrwydd a rheoli disgwyliadau o ran gofynion ymrwymiad y cwrs.

DYDDIAD CAU AR GYFER DERBYN ENWAU: 20 EBRILL 2018


GWYBODAETH I'W ARGRAFFU