Arwain Dysgu ac Addysgu

Rhaglen 3 Diwrnod 
Arwain Dysgu ac Addysgu
Llythrennedd a Rhifedd 2016-2017

 

“Arweinwyr addysg ar bob lefel yn cydweithio mewn system hunan-wella, gan helpu a herio ei gilydd er mwyn codi safonau ym mhob ysgol” – ‘Cymwys am Oes – cynllun gwella addysg i ddysgwyr 3-19 oed yng Nghymru’ (Llywodraeth Cymru, 2014)

Yn dilyn llwyddiant y llynedd, byddwn yn cynnig cyfle i Arweinwyr Llythrennedd a Rhifedd ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth a’u sgiliau pynciol ymhellach gyda’r rhaglen 3 diwrnod ar Arwain ar Ddysgu ac Addysgu.

Bydd y rhaglen hon yn agored i bob ysgol gynradd yn rhanbarth GwE yn rhad ac am ddim. Fodd bynnag, dim ond Arweinwyr Llythrennedd a Rhifedd nad ydynt wedi mynychu’r rhaglen hon yn flaenorol sy’n gymwys i gymryd rhan. (Bydd cyfleoedd eraill i’r rhai oedd mewn carfannau blaenorol ddatblygu eu rolau ymhellach. Bydd gwybodaeth bellach i ddilyn ar wahân).

Bydd y rhaglen tri diwrnod yn canolbwyntio ar y meysydd allweddol canlynol ym maes Arwain ar Ddysgu ac Addysgu: Maes Allweddol 2:

Arwain ar Ddysgu ac Addysgu (Matrics Carreg Filltir Arweinyddiaeth, 2015)

 

Darpar arweinydd:

  • Magu profiad yn arsylwi gwersi a rhoi adborth mewn amrywiaeth o gyd-destunau.
  • Magu profiad yn dadansoddi data ar lefel ysgol, leol a chenedlaethol, gan lunio casgliadau ac awgrymu meysydd ar gyfer gwella.

Arweinydd canol:

  • Cymryd cyfrifoldeb am werthuso safonau addysgu a dysgu ar draws pwnc neu faes cwricwlaidd.
  • Gweithio i sicrhau bod disgwyliadau ac ymarfer yn gyson ar draws y maes cyfrifoldeb. Nodi meysydd ar gyfer gwella ac arfer dda.
  • Rhannu’r rhain â’ch tîm ac eraill drwy lunio a gweithredu cynllun datblygu seiliedig ar dystiolaeth sy’n cynnwys deilliannau ac effaith a nodwyd.
  • Nodi, modelu a rhannu arfer dda drwy gyfrannu at waith dysgu ac addysgu ar draws yr ysgol a thu hwnt iddi.

Manylion pellach:

  • Drwy gofrestru ar gyfer y rhaglen hon byddwch yn ymrwymo i fynychu am un diwrnod bob tymor drwy gydol y flwyddyn academaidd.
  • Bydd tasgau i’w cwblhau rhwng pob sesiwn a fydd yn berthnasol i gynllun gwella’r ysgol o ran llythrennedd/rhifedd am y flwyddyn. Ni ddylid eu hystyried fel ‘gwaith ychwanegol’, ond yn hytrach fel rhan o’r hyn fyddai’r arweinydd yn ei wneud beth bynnag. Disgwylir i’r mynychwyr adrodd yn ôl ar eu gwaith yn y sesiwn ddilynol.
  • Nid oes cost i’r rhaglen, ond bydd angen i ysgolion dalu costau llanw eu hunain.
  • Bydd un diwrnod y tymor (9.00 – 4.00) ar gyfer arweinwyr rhifedd a diwrnod ar wahân ar gyfer arweinwyr llythrennedd. Bydd peth o’r cynnwys yr un fath, ond bydd peth cynnwys hefyd yn bwnc benodol. Gall ysgolion anfon un cynrychiolydd i’r rhaglen rhifedd ac un arall i’r rhaglen llythrennedd os ydynt yn dymuno.
  • Darperir cinio.
  • Os ydych yn ansicr p’un ai ydych yn gymwys i fynychu ai peidio, anfonwch e-bost at llythrenneddarhifedd@gwegogledd.cymru
  • Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw dydd Gwener, 7fed o Hydref 2016
  • Cynhelir 1 (Tymor yr Hydref) rhwng 10fed a 21ain Hydref 2016. (Gweler isod ar gyfer dyddiadau penodol a lleoliadau rhanbarthol, a dilynwch y dolenni i gofrestru.)
  • Cynhelir diwrnod 2 (Tymor y Gwanwyn) rhwng 1af a 17eg Chwefror 2017.
  • Cynhelir diwrnod 3 (Tymor yr Haf) rhwng 5ed a 23ain Mehefin 2017.

 

Rhaglen Arweinyddiaeth Dysgu ac Addysgu: Cymraeg

 

Dyddiad

Lleoliad

Dolen i gofrestru

Dydd Llun, 10 Hydref 2016 Plas Tan y Bwlch, Penrhyndeudraeth Cliciwch yma i gorfrestru ar y rhaglen LLYTHRENNEDD
Dydd Mawrth, 11 Hydref 2016 Swyddfa GwE, Penrallt, Caernarfon Cliciwch yma i gorfrestru ar y rhaglen LLYTHRENNEDD
Dydd Llun, 17 Hydref 2016 Ysgol Uwchradd Rhyl Cliciwch yma i gorfrestru ar y rhaglen LLYTHRENNEDD
Dydd Iau, 13 Hydref 2016 Swyddfa GwE, Bryn Eirias, Bae Colwyn Cliciwch yma i gorfrestru ar y rhaglen RHIFEDD
Dydd Gwener, 14 Hydref 2016 Plas Menai, Caernarfon Cliciwch yma i gorfrestru ar y rhaglen RHIFEDD
Dydd Gwener, 4 Tachwedd 2016 Ysgol y Grango, Wrecsam Cliciwch yma i gorfrestru ar y rhaglen RHIFEDD