CPCP
Y CYMHWYSTER PROFFESIYNOL CENEDLAETHOL AR GYFER PRIFATHRAWIAETH (CPCP)
Oherwydd yr amhariad ar brosesau arferol yr asesiad CPCP, bydd model ychwanegol ‘Asesiad yn Unig’ ar gael yn y flwyddyn academaidd 2020-21. Mae hyn yn benodol er mwyn cefnogi’r arweinwyr ysgol rheiny sydd ar drothwy prifathrawiaeth ac sy’n disgwyl gwneud cais am swydd Pennaeth yn y 12 mis nesaf. Bwriedir y rhaglen ar gyfer ymarferwyr sy’n barod am asesiad yn awr ac nid yw’n cynnwys cefnogaeth ddatblygol. Dylai ymgeiswyr sicrhau ardystiad eu Pennaeth a’u rhanbarth.
Dylai darpar ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen hon roi ystyriaeth yn gyntaf i’r Rhaglen Genedlaethol i Ddatblygu Darpar Benaethiaid – Paratoi ar gyfer CPCP
- Dylid dychwelyd ceisiadau ar gyfer CPCP 2020-21, yn cynnwys dogfennau ategol, i’r Consortiwm erbyn 1yp ar 18/09/2020
Sesiwn Wybodaeth
Er mwyn sicrhau bod ymarferwyr gyda gwybodaeth lawn, mae cyflwyniad PowerPoint ar gael ac argymhellir y dylai pob ymarferydd sy’n ystyried ymgeisio wylio’r cyflwyniad. Pan yn bosib, argymhellir y dylai Penaethiaid wylio hefyd er mwyn bod yn gwbl ymwybodol o’u rôl yn y broses ardystio.
Y CYMHWYSTER PROFFESIYNOL CENEDLAETHOL AR GYFER PRIFATHRAWIAETH (CPCP – ASESIAD YN UNIG) 2020-21
- Mae’r Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP) yn orfodol ar gyfer pob athro sy’n symud i’w swydd Pennaeth gyntaf yng Nghymru.
- I’r dyfodol, ni fydd rowndiau asesu CPCP ar gael onibai eich bod wedi cwblhau’r Rhaglen Genedlaethol i Ddatblygu Darpar Benaethiaid – Paratoi ar gyfer CPCP
A ddylwn ymgeisio am y CPCP (Asesiad yn Unig)?
Mae’r CPCP (Asesiad yn Unig) yn benodol ar gyfer ymarferwyr sy’n chwilio am swydd Pennaeth fel eu swydd nesaf (o fewn y 12 mis nesaf) Er mwyn cael eu hystyried ar gyfer y CPCP, rhaid bod yr ymgeiswyr:
- yn athrawon cymwysedig sydd wedi cofrestru fel athrawon gyda Chyngor y Gweithlu Addysg yng Nghymru;
- yn ymarferwyr sydd â phrofiad addas ac sy’n bwriadu bod yn Benaethiaid yn y dyfodol agos iawn. Prifathrawiaeth yw’r cam nesaf yn eu gyrfa (nid yw Penaethiaid mewn gofal nad ydynt yn dymuno cael swydd Pennaeth barhaol yn gymwys i gymryd rhan);
- wedi cyrraedd cam yn eu gyrfa lle gallant ddarparu tystiolaeth gref i arddangos profiad sylweddol o arweinyddiaeth ar lefel ysgol gyfan, yn ogystal â chyrhaeddiad yn erbyn y Safonau Arweinyddiaeth Ffurfiol (y Safonau Proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth)
- yn barod i rannu dysgu a datblygiad gyda swyddogion cymorth a chyd-weithwyr eraill, gan gynnwys enghreifftiau ac astudiaethau achos o’r profiadau a gafwyd yn ystod eu gyrfa ac sydd wedi eu paratoi ar gyfer prifathrawiaeth.
Gwneud cais
- Dylech drafod eich cais, eich Adolygiad Safonau Arweinyddiaeth (ASA) a’ch Tasg Profiad Arweinyddiaeth (TPA) gyda’ch Pennaeth, a fydd, o bosib, am ei drafod gyda’r Ymgynghorydd Her / Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant.
- Os ydych wedi cael cytundeb eich Pennaeth, bydd yn cwblhau ac yn llofnodi’r cais ac yn ei ddychwelyd atoch.
- Rhaid i chi anfon eich cais a’r holl ddogfennau ategol at y Consortiwm cyn 1yp ar 18/09/2020. Bydd y Consortiwm yn trefnu i’r Swyddog Ardystio ystyried y cais a gwneud argymhelliad.
- Byddwch yn ymwybodol na fydd canlyniad yr asesiad yn wybyddus tan ar ôl cychwyn y Rhaglen Genedlaethol i Ddatblygu Darpar Benaethiaid – Paratoi ar gyfer CPCP.
- O ganlyniad, bydd angen i ymgeiswyr aflwyddiannus o’r model CPCP – Asesiad yn Unig hwn wneud cais am a chwblhau rownd ddyfodol o’r Rhaglen Genedlaethol i Ddatblygu Darpar Benaethiaid – Paratoi ar gyfer CPCP.
CCyD / CSC | csc_npqh@rctcbc.gov.uk | 01443 281411 |
GCA/ EAS | Business.Support@sewaleseas.org.uk | 01443 864963 |
ERW | cpcp@erw.org.uk | 01267 245637 |
GwE | cpcp@gwegogledd.cymru | 01286 679976 |
Ardystiad
- Rhoddir ystyriaeth i geisiadau a gyflwynir drwy broses ardystio eich rhanbarth.
- Pan fo cais ymgeisydd yn cael ei ardystio, clustnodir Hyfforddwr Arweinyddiaeth i’w cefnogi yn eu gwaith paratoi at y ganolfan asesu.
- Pan nad yw cais ymgeisydd yn cael ei ardystio, cynghorir iddo/iddi ystyried gwneud cais am y Rhaglen Genedlaethol i Ddatblygu Darpar Benaethiaid – Paratoi ar gyfer CPCP fydd yn cychwyn yn Ionawr 2021.
Amserlen
Rhaglen asesu CPCP 2020-21 – proses gwneud cais yn agor | 13/07/20 |
Cyflwyno ffurflen gais a dogfennau ategol erbyn 1yp | 18/09/20 |
Hysbysu’r ymgeisydd o’r canlyniad | 19/10/20 |
Ymgeisydd yn cyflwyno Deunyddiau Asesu diwygiedig 1yp | 14/01/21 |
Canolfan Asesu | 01/02/21 – 12/02/21 |
Hysbysu’r ymgeiswyr o’r canlyniadau (anfon y llythyrau) | 05/03/21 |
Dyddiad cau ar gyfer apelio | 26/03/21 |
Rhagor o wybodaeth
Darperir rhagor o wybodaeth, templedi a ffurflenni cais isod.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch yr uchod, cysylltwch â’ch Cydlynydd Rhanbarthol:
Consortiwm |
Cydlynydd Rhanbarthol |
Manylion Cyswllt |
CCyD / CSC | Emma Coates | Emma.Coates@cscjes.org.uk / 01443 281411 |
GCA / EAS | Adelaide Dunn Deb Woodward |
Adelaide.Dunn@sewaleseas.org.uk / 07890 381907 Deb.woodward@sewaleseas.org.uk / 07904 644832 |
ERW | Tom Fanning | tom.fanning@erw.cymru / 01267 245637 |
GwE | Rhys Williams / Ann Grenet | cpcp@gwegogledd.cymru / 01286 679976 |
Dogfennau CPCP
Dogfennau cefndirol:
- Y Safonau Proffesiynol ar gyfer addysgu a dysgu
- Cyflwyniad PowerPoint Sesiwn Wybodaeth CPCP 2020-21
- Cyngor i Benaethiaid
Mae’n rhaid cyflwyno’r dogfennau isod fel rhan o’r cais:
Y CYMHWYSTER PROFFESIYNOL CENEDLAETHOL AR GYFER PRIFATHRAWIAETH [CPCP]
Dylid dychwelyd ceisiadau ar gyfer CPCP 2019-2020 i’r Consortiwm erbyn 1:00yp Ddydd Llun, 16 Medi 2019.
Dyddiadau’r Sesiynau Briffio
Er mwyn sicrhau bod ymarferwyr yn gwbl wybodus, cynhelir nifer o sesiynau briffio ledled Cymru, ac argymhellir y dylai pob ymarferydd sy’n ystyried ymgeisio fod yn bresennol. Lle’n bosib, argymhellir y dylai Penaethiaid fynychu gyda’r darpar ymgeisydd.
Mae’r CPCP yn rhaglen genedlaethol ac, o’r herwydd, bydd pob un o’r sesiynau briffio yn darparu’r un wybodaeth; felly, gallwch fynd i’r sesiwn sydd fwyaf cyfleus o ran amser a lleoliad. Nid oes angen cofrestru ymlaen llaw.
Isod, dangosir manylion yr holl sesiynau briffio ledled Cymru:
Cynhelir pob sesiwn friffio rhwng 4:00yp – 5:00yp | ||
Ysgol U. Llanwern, Casnewydd, NP18 2YE | EAS & CSC | 07/05/2019 |
Canolfan Griffith Jones, Heol yr Orsaf, Sanclêr, SA33 4BT | ERW | 07/05/2019 |
CAB Felin-fach, Llanbedr Pont Steffan SA48 8AG | ERW | 09/05/2019 |
Plas Menai, Canolfan Awyr Agored Genedlaethol Chwaraeon Cymru Caernarfon, Gwynedd LL55 1UE | GwE | 13/05/2019 |
Holiday Inn, Gogledd yr M4, Tongwynlais, Caerdydd CF15 7AD | CSC & EAS | 14/05/2019 |
Holiday Inn Westbound A55, CH7 6HB | GwE | 14/05/2019 |
Gwesty’r Village, Heol Langdon, Abertawe SA1 8QY | ERW | 16/05/2019 |
Ysgol U. Y Drenewydd, Heol Dolfor, Y Drenewydd SY16 1JE | ERW | 20/05/2019 |
Y Pant, Ysgol Gyfun y Pant, Heol y Bont-faen, Tonysguboriau, Pont-y-clun, Rhondda Cynon Taf CF72 8YQ | CSC | 21/05/2019 |
Glasdir, Llanrwst | GwE | 13/06/2019 [Sesiwn Ychwanegol] |
Y CYMHWYSTER PROFFESIYNOL CENEDLAETHOL AR GYFER PRIFATHRAWIAETH [CPCP] 2019-2020
Mae’r Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP) yn orfodol ar gyfer pob athro sy’n symud i’w swydd Pennaeth gyntaf yng Nghymru.
A ddylwn ymgeisio am y CPCP?
Mae’r CPCP yn benodol ar gyfer ymarferwyr sy’n ceisio am swydd Pennaeth fel eu swydd nesaf. Er mwyn cael eu hystyried ar gyfer y CPCP, rhaid bod yr ymgeiswyr:
- yn athrawon cymwysedig sydd wedi cofrestru fel athrawon gyda Chyngor y Gweithlu Addysg yng Nghymru;
- yn ymarferwyr sydd â phrofiad addas ac sy’n bwriadu bod yn Benaethiaid yn y dyfodol agos. Bod yn Brifathro yw’r cam nesaf yn eu gyrfa (nid yw Penaethiaid dros dro nad ydynt yn dymuno cael swydd Pennaeth barhaol yn gymwys i gymryd rhan);
- wedi cyrraedd cam yn eu gyrfa lle gallant ddarparu tystiolaeth gref i arddangos profiad sylweddol o arweinyddiaeth ar lefel ysgol gyfan, yn ogystal â chyrhaeddiad yn unol â’r Safonau Arweinyddiaeth Ffurfiol [y Safonau Proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth]
- yn barod i rannu dysgu a datblygiad â swyddogion cymorth a chyd-weithwyr eraill, gan gynnwys enghreifftiau ac astudiaethau achos o’r profiadau a gafwyd yn ystod eu gyrfa ac sydd wedi eu paratoi ar gyfer prifathrawiaeth.
Gwneud cais
- Dylech drafod eich cais a’ch Adolygiad Safonau Arweinyddiaeth (ASA) gyda’ch Pennaeth, a fydd, o bosib, am ei drafod â’r Ymgynghorydd Her.
- Os ydych wedi cael cytundeb eich Pennaeth, bydd yn llenwi ac yn llofnodi’r cais ac yn ei ddychwelyd atoch.
- Rhaid i chi anfon eich cais a’r ASA wedi ei gwblhau at y Consortiwm cyn 1pm ar 16/09/2019. Bydd y Consortiwm yn trefnu i’r Swyddog Ardystio ystyried y cais a gwneud argymhelliad.
- Rhaid cyflwyno ceisiadau i’ch Consortiwm lleol:
CSC | csc_npqh@rctcbc.gov.uk | 01443 281411 |
EAS | Business.Support@sewaleseas.org.uk | 01443 864963 |
ERW | cpcp@erw.org.uk | 01267 245637 |
GwE | cpcp@gwegogledd.cymru | 01286 679976 |
Amserlen
Cyflwyno ffurflen gais ac ASA erbyn 1pm | 16/09/2019 |
Swyddog Ardystio i ddychwelyd y cais | 23/09/2019 |
Hysbysu’r ymgeisydd o’r canlyniad ac enw’r Hyfforddwr Arweinyddiaeth | 26/09/2019 |
Diwrnod 1. Diwrnod Datblygu CPCP Cenedlaethol (pob ymgeisydd) Gogledd Cymru | 15/10/2019 |
Diwrnod 2. Arddulliau Arwain (Caerdydd) | 19/11/2019 |
Diwrnod 2. Arddulliau Arwain (Abertawe) | 20/11/2019 |
Diwrnod 2. Arddulliau Arwain (Llandudno) | 26/11/2019 |
Cefnogaeth ar gael o | 14/10/2019 |
Cyflwyno Deunyddiau Asesu Ymgeiswyr 1pm | 17/01/2020 |
Canolfan Asesu | 03/02/20 -14/02/20 |
Hysbysu’r ymgeiswyr o’r canlyniadau (anfon y llythyrau) | 04/03/2020 |
Dyddiad cau ar gyfer apelio | 02/04/2020 |
Diwrnod Datblygu a Dathlu CPCP Cenedlaethol | 19/05/2020 |
Rhagor o wybodaeth
Darperir rhagor o wybodaeth, templedi a ffurflenni cais isod. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch yr uchod, cysylltwch â’ch Cydlynydd Rhanbarthol:
Consortiwm | Cydlynydd Rhanbarthol | Manylion Cyswllt |
CSC | Jendy Hillier | Jendy.h.hillier@cscjes.org.uk 01443 827555 |
EAS | Peter Jenkins | peter.jenkins@sewaleseas.org.uk 07904 644749 |
ERW | Tom Fanning | tom.fanning@erw.org.uk 01267 245637 |
GwE | Rhys Williams / Ann Grenet | cpcp@gwegogledd.cymru 01286 679976 |
Dogfennau CPCP
Sesiynau Briffio
Pecyn Cais
Gwybodaeth Ychwanegol
Templedi ar gyfer Deunyddiau Asesu Ymgeiswyr
I’w hanfon at cpcp@gwegogledd.cymru erbyn 1:00yp ar 17/01/2020 ynghŷd â’ch ASA diwygiedig:
I’w gyflwyno i’r tîm yn y Ganolfan Asesu CPCP ym mis Chwefror:
Mae’r Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP) yn orfodol ar gyfer pob athro neu athrawes sy’n symud i’w swydd gyntaf fel pennaeth yng Nghymru.
A ddylwn gyflwyno cais am y CPCP?
- Prifathrawiaeth yw cam nesaf fy ngyrfa
- Rwyf eisiau bod yn bennaeth a byddaf yn chwilio’n frwd am fy swydd barhaol gyntaf
- Rwyf yn gallu arddangos fy nghyrhaeddiad yn erbyn y Safonau Arweinyddiaeth Ffurfiol
Sesiynau Gwybodaeth 2018-2019
Mae’r rhaglen ar gyfer 2018/19 yn wahanol i’r blynyddoedd blaenorol ac mae’n hanfodol eich bod yn derbyn manylion am y cynnwys a’r broses er mwyn penderfynu os dymunwch wneud cais.
Er mwyn sicrhau eich bod yn llawn ymwybodol o’r broses, trefnir nifer o sesiynau briffio ar draws Cymru ar ddiwedd tymor yr haf ac ar gychwyn tymor yr hydref. Arghymhellir eich bod yn mynychu un o’r rhain gyda’ch Pennaeth.
Mae CPCP yn raglen cenedlaethol ac, yn hyn o beth, mae pob sesiwn briffio yn darparu’r un wybodaeth, felly gallwch fynychu’r sesiwn sydd fwyaf cyfleus i chi o ran lleoliad. Nid oes angen cofrestru ymlaen llaw. Ceir manylion llawn yr holl sesiynau briffio ar draws Cymru isod.
Cyflwyno cais
- Dylech drafod eich cais a’ch Adolygiad Safonau Arweinyddiaeth (ASA) gyda’ch Pennaeth, a fydd, o bosibl, am ei drafod gyda’r Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant
- Os ydych wedi cael cytundeb eich Pennaeth, bydd yn llenwi ac yn llofnodi’r cais ac yn ei ddychwelyd atoch
- Rhaid i chi anfon eich cais ymlaen i’r Consortiwm [cpcp@gwegogledd.cymru] cyn 1pm ar y dyddiad y cytunwyd arno. Bydd y Consortiwm yn trefnu i’r Swyddog Ardystio ystyried y cais a gwneud argymhelliad
Amserlen CPCP | |
Cyflwyno ffurflen gais erbyn 1:00yp [cpcp@gwegogledd.cymru] | 08/10/2018 |
Swyddog Ardystio i ddychwelyd y cais | 19/10/2018 |
Hysbysu’r ymgeisydd o’r canlyniad ac enw’r un sy’n cefnogi | 24/10/2018 |
Diwrnod cenedlaethol [Gwesty’r Marriott, Abertawe] | 06/11/2018 |
Cefnogaeth o | 12/11/2018 |
Cyflwyno templedi erbyn 1:00yp | 01/02/2019 |
Canolfannau Asesu | 04/03/2019 – 15/03/2019 |
Cymedroli Cenedlaethol | 22/03/2019 |
Canlyniadau i Ymgeiswyr | 03/04/2019 |
Dyddiadau Cau ar gyfer Apelio | 07/05/2019 |
Y Panel Apêl, w/c | 13/05/2019 |
Diwrnod Datblygu Cenedlaethol [De] w/c | 22/05/2019 |
Dogfennaeth CPCP
Cysylltwch â’ch Cydlynydd Rhanbarthol gydag unrhyw ymholiadau:
CONSORTIWM | CYDLYNYDD RHANBARTHOL | MANYLION CYSWLLT |
Consortiwm Canolbarth y De | Jendy Hiller | Jendy.h.hillier@cscjes.co.uk 01443 827555 |
Gwasanaeth Cyflawni Addysg De Ddwyrain Cymru | Peter Jenkins | peter.jenkins@sewaleseas.org.uk 07904 644749 |
ERW | Tom Fanning | tom.fanning@erw.org.uk 07740 434169 |
GwE | Rhys Williams | cpcp@gwegogledd.cymru 01286 679976 |
CPCP 2017-2018
Rhaglen genedlaethol yw’r CPCP, sy’n cael ei chyflwyno’n rhanbarthol gan y pedwar consortiwm.
Mae’n cynnwys asesiad trylwyr yn erbyn y Safonau Arweinyddiaeth ac yn rhoi ffocws ar dystiolaethu ymarfer proffesiynol.
Gweler dolen i’r dudalen CPCP ar wefan Dysgu Cymru.
GwE
Cynghorir holl darpar ymgeiswyr CPCP i fynychu un o’r sesiynau briffio gyda’u Pennaeth. Cynhelir sesiynau briffio ar draws rhanbarth GwE yn ystod yr wythnos yn cychwyn 5 Mehefin.
Sesiynau Gwybodaeth 2017-2018
Gweler y ddogfen pdf am ragor o ddyddiadau a lleoliadau ar draws Cymru. Mae croeso i chi fynychu un o’r rhain os nad yw dyddiadau sesiynau GwE yn gyfleus:
Isod gweler gopi o gyflwyniad PowerPoint o’r Sesiynau Gwybodaeth:
Dyma’r amserlen ymgeisio ar gyfer 2017-2018
Mehefin-Medi 2017 | Ymgeiswyr i drafod yr Adolygiad Arweinyddiaeth Unigol (AAU) a’r cais gyda’u Pennaeth |
Erbyn 13:00 ar 18 Medi 2017 | Ymgeiswyr i gyflwyno i GwE (cpcp@gwegogledd.cymru neu npqh@gwenorth.wales):
|
Rhwng 18 Medi a 9 Hydref 2017 | GwE i drefnu i’r ffurflenni gael eu cwblhau gan yr Ymgynghorwyr Her a’r Swyddogion Ardystio |
Erbyn 13 Hydref 2017 | Ymgeiswyr sy’n cael eu derbyn ar y rhaglen yn cael eu hysbysu o hynny gan GwE, gyda chopi o’r ffurflen gais terfynol. |
O’r 16 Hydref 2017 ymlaen | Cyfnod cefnogaeth yn cychwyn i ymgeiswyr. |
w/c 23 Hydref 2017 | Dau ddiwrnod o Ddatblygiad Arweinyddiaeth i ymgeiswyr |
Erbyn 13:00 ar 31 Ionawr 2018 | Ymgeiswyr yn cyflwyno eu templed CPCP i GwE (cpcp@gwegogledd.cymru / npqh@gwenorth.wales) |
Rhwng 5 a 23 Chwefror 2018 | Canolfan Asesu |
w/c 12 Mawrth 2018 | Ymgeiswyr yn cael eu hysbysu o’r canlyniad |
w/c 21 Mai 2018 | Diwrnod Datblygu cenedlaethol |
Dyma’r ffurflen gais CPCP ar gyfer 2017-18. Bydd angen ei chyflwyno – yn dilyn trafodaeth gyda’ch Pennaeth a chyda’r adran Pennaeth o’r ffurflen wedi ei chwblhau – i cpcp@gwegogledd.cymru erbyn 1:00yp ar 18 Medi 2017.
Dyma’r ffurflen Adolygiad Arweinyddiaeth Unigol (AAU) wag sydd rhaid ei defnyddio. Bydd angen i chi gyflwyno hon gyda’ch ffurflen gais ar ffurf Word (+ copi PDF) erbyn 1:00yp ar 18 Medi 2017 i cpcp@gwegogledd.cymru.
SYLWCH hefyd fod uchafswm geiriau ar y ddogfen AAU – ni fydd geiriau ychwanegol yn cael eu cyfrif.
Ni fydd unrhyw fersiwn arall o’r AAU yn cael ei derbyn!
Bydd y cyflwyniad Powerpoint hwn yn eich cynorthwyo i gwblhau’r AAU.
Dyma rai enghreifftiau o AAUau wedi eu cwblhau.
Cyswllt
Am fwy o fanylion cysylltwch â: Marian Wyn Williams (cpcp@gwegogledd.cymru) (01286) 679976
CPCP 2016-2017
Rhaglen genedlaethol yw’r CPCP, sy’n cael ei chyflwyno’n rhanbarthol gan y pedwar consortiwm.
Mae’n cynnwys asesiad trylwyr yn erbyn y Safonau Arweinyddiaeth ac yn rhoi ffocws ar dystiolaethu ymarfer proffesiynol.
Dyma’r broses CPCP:
- Cyflwyno cais
- Hysbysu
- Cefnogaeth a Datblygiad:
- – Hyfforddi ar gyfer Arweinyddiaeth
– Gweithgaredd Arweinyddiaeth
– Paratoi at y Ganolfan Asesu
– Rhwydweithio - Asesiad:
– Cyflwyno tystiolaeth o’ch ymarfer proffesiynol gan gynnwys eich AAU diweddaraf (Adolygiad Arweinyddiaeth Unigol)
– Canolfan Asesu Rhanbarthol a chymedroli
– Cymedroli cenedlaethol
Amserlen CPCP 2016-2017
Cefnogaeth gan Hyfforddwr Arweinyddiaeth |
O Tachwedd/Rhagfyr |
AAU diweddaraf wedi’i gyflwyno i’r Consortiwm. (1yp ar ffurf PDF) cpcp@gwegogledd.cymru | 01/03/2017 |
Canolfannau Asesu | 06/03/2017 – 17/03/2017 |
Cyfarfod Cymedroli Cenedlaethol | 28/03/2017 |
Canlyniadau i ymgeiswyr | 03/04/2017 |
Dyddiad cau ar gyfer apelio | 10/05/2017 |
Cyfarfod y panel apêl (yn ystod yr wythnos) | 22/05/2017 |
Seremoni raddio (yn ystod yr wythnos) | 03/07/2017 |
Ar gyfer unrhyw wybodaeth ychwanegol, cysylltwch ag Ann Grenet / Marian Williams trwy e-bostio cpcp@gwegogledd.cymru neu trwy ffonio (01286) 679976.