Academi Newydd yn cymeradwyo Consortia Addysg Cymru i gyflwyno’r Rhaglen Arweinyddiaeth Genedlaethol Gyntaf i Ysgolion

Roedd diwrnod cenedlaethol y Rhaglen Datblygu Penaethiaid Newydd a Phenaethiaid Dros Dro a gynhaliwyd yr wythnos diwethaf ac a oedd yn cynnwys y siaradwr gwadd ysbrydoledig Syr John Jones, yn benllanw tymor o dorri tir newydd ar gyfer y consortia addysg. Dyma’r rhaglen datblygu arweinyddiaeth genedlaethol gyntaf o ganlyniad i gydweithio rhwng y pedwar consortiwm i gael dilysiad gan bartneriaid achredu Prifysgol Bangor a’r Athrofa (Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant), a’r rhaglen gyntaf i’w chymeradwyo gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol a sefydlwyd yn ddiweddar.

Nod y rhaglen datblygu arweinyddiaeth, sy’n rhan o bortffolio prosiect cenedlaethol y consortia, yw datblygu darpariaeth unffurf o safon uchel i ddarpar benaethiaid, i benaethiaid newydd a phenaethiaid profiadol o bob cwr o Gymru. Mae’r rhaglenni hyn mewn ymateb i amcan Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth Ein Cenedl, sef meithrin “arweinwyr ysbrydoledig sy’n cydweithio i godi safonau“. Y Rhaglen i Benaethiaid Newydd a Phenaethiaid Dros Dro yw’r cyntaf o’r rhaglenni hyn i’w chwblhau, ac fe’i cyflwynwyd ym mis Medi 2018.

Nid cynghrair o’r consortia yn unig yw’r rhaglen; mae hefyd yn bartneriaeth go iawn ar draws y sbectrwm addysg, gyda phenaethiaid ledled Cymru yn mynychu gweithdai i helpu a chynghori gyda dylunio rhaglenni. Yn ogystal, cafodd y rhaglen ei hadolygu’n gynhwysfawr gan grwpiau strategol penaethiaid o bob cwr o Gymru a chyfarwyddwyr addysg awdurdodau lleol. Mae sefydliadau addysg uwch Yr Athrofa a Phrifysgol Bangor hefyd wedi chwarae rhan arwyddocaol wrth ddatblygu a chyflwyno modiwlau a phrosesau gwerthuso.

 

Meddai noddwr rhaglenni consortia a Rheolwr Gyfarwyddwr EAS, Debbie Harteveld:

“Ni fu’r broses heb ei heriau, ond, yn y pen draw, bu’n gyffrous ac yn brofiad gwerth chweil gweithio’n agos gyda chyd-weithwyr ar y rhaglen datblygu arweinyddiaeth genedlaethol gyntaf sy’n wirioneddol gydweithredol. Dyma raglen gyntaf continwwm o raglenni datblygu arweinyddiaeth sy’n cynnig darpariaeth datblygu arweinyddiaeth o safon uchel i athrawon ar bob cam o’u gyrfa, waeth ble maent yn byw neu’n addysgu yng Nghymru.

Mae’r rhaglenni hyn yn rhoi cyfle i athrawon wella eu sgiliau arwain trwy gydol eu gyrfa. Yn ogystal, yn dilyn proses dendro, dechreuodd y consortia bartneriaeth rhwng Prifysgol Bangor a’r Athrofa i achredu nid yn unig y rhaglen i Benaethiaid Newydd a Phenaethiaid Dros Dro ond yr holl raglenni arweinyddiaeth sydd ar y gorwel, gan gynnig cyfle i athrawon a phenaethiaid gael achrediad a chymhwyster ffurfiol, yn amrywio o dystysgrif ôl-radd i uwch ddoethuriaeth. Gall aelodau’r cwrs hefyd geisio ennill credydau o weithgaredd dysgu yn y gwaith sy’n arwain at gymwysterau.

Ar ôl bron i ddwy flynedd o ymdrech ar y cyd, ym mis Gorffennaf 2018, cyflwynwyd y rhaglen i Benaethiaid Newydd a Phenaethiaid Dros Dro i’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol ei chymeradwyo. Yn dilyn hynny, y rhaglen oedd y gyntaf, a’r unig un hyd yma, i ennill cymeradwyaeth –  cam arwyddocaol a chadarnhaol ymlaen i’r consortia ac i’r academi,  gydag adborth gan y panel yn nodi:

‘Rhaglen gyffrous wedi’i datblygu’n dda ac sydd wedi gosod safon uchel ar gyfer gweithgarwch ardystio i’r dyfodol gan yr Academi. Teimlai’r panel ardystio bod y ddarpariaeth, a ddatblygwyd o raglenni rhanbarthol presennol, yn ysbrydoledig yn ei gweledigaeth ar gyfer penaethiaid newydd a phenaethiaid dros dro, ac yn cyd-fynd yn llawn â ffocws yr Academi ar arweinyddiaeth dysgu.’

Mae’r wythnos hon yn gwireddu cam cyntaf arall i’r consortia, sef y diwrnod cenedlaethol cyntaf i Benaethiaid Newydd a Phenaethiaid Dros Dro, pan fydd 120 o aelodau yn ymgynnull yng Ngwesty’r Marriott, Abertawe am raglen wedi’i chynllunio’n ofalus i lywio ac ysbrydoli arweinwyr addysgol y dyfodol ac sy’n cynnwys gweithdai a siaradwyr.”

 

Dywedodd siaradwr gwadd y rhaglen a Phrif Weithredwr yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysg, Huw Foster Evans:

 “Mae’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn falch iawn o fod yn bresennol ar gyfer lansiad swyddogol y Rhaglen i Benaethiaid Newydd a Phenaethiaid Dros Dro. Dyma’r rhaglen gyntaf i gael ei chymeradwyo gan yr Academi, a hoffem ddiolch yn fawr i bartneriaeth y pedwar rhanbarth ac i’r awdurdodau lleol a’r prifysgolion am eu gwaith.  Hyderwn yn fawr y bydd y rhaglen newydd hon yn cynnig ysbrydoliaeth a chefnogaeth i genhedlaeth newydd o benaethiaid, sy’n chwarae rhan mor allweddol wrth arwain dysgu ein plant a’n pobl ifanc.”

Am ragor o wybodaeth am raglenni datblygu arweinyddiaeth, cysylltwch â’r Arweinydd Strategol Trawsrhanbarthol, Rhys Howard Hughes: rhyshowardhughes@gwegogledd.cymru

 

Chwith i’r dde:
Tom Fanning [ERW] / Marc Berw Hughes [GwE] / Jendy Hiller [CSC] / Deb Woodward [EAS] / Sir John Jones / Anna Brychan [CSC] / Rhys Howard Hughes [GwE] / Richard Carbis [CSC] / Huw Foster Evans  [Prif Weithredwr, Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru]