Anghenion Dysgu Ychwanegol

RHAGLEN TRAWSNEWID ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL
Fel rhan o’r rhaglen ddiwygio addysg ehangach, mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i ddiwygio’r gweithdrefnau Anghenion Dysgu Ychwanegol.  Cafodd y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) ei basio gan y Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 12 Rhagfyr 2017 a daeth yn ddeddf ar 24 Ionawr 2018.

Mae GwE yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r holl awdurdodau lleol a’r arweinydd trawsnewid rhanbarthol er mwyn cefnogi’r rhaglen ddiwygio hon.

 

DANGOSFWRDD G6
Ers Medi 2018, mae yna fodiwl newydd yn ymddangos ar Dangosfwrdd y G6 er mwyn cefnogi’r daith tuag at Fedi 2020. Bwriad y modiwl ydy cefnogi ysgolion mewn parodrwydd, gan sicrhau bod bob Ysgol mewn sefyllfa gref er mwyn gweithredu’r ddeddf pan ddaw i rym ar 1 Medi 2020.

Os hoffech fanylion pellach neu gymorth gyda’r modiwl, cysylltwch gyda Margaret.davies@sirddinbych.gov.uk

 

EIRIOLWYR TRAWSNEWID ADY CLWSTWR
Fel rhan o’r gwaith trawsnewid, mae bob clwstwr ar draws y Gogledd wedi cael y cyfle i enwebu un eiriolydd trawsnewid ADY clwstwr. Mi fydd y person enwebedig yn rhan greiddiol o gefnogi’r clwstwr mewn parodrwydd ar gyfer y ddeddf newydd, sydd yn cynnwys sicrhau bod ysgolion yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf er mwyn hysbysu a chefnogi rhieni.  Edrychwn ymlaen yn fawr i weithio gyda’n heiriolwyr trawsnewid ADY clwstwr yn ystod y deunaw mis nesaf.