Asesiadau Rhifedd [Gweithdrefnol] Personol

Mae Asesiadau Rhifedd [Gweithdrefnol] Personol ar gael nawr!

Yn dilyn y neges [yma] fis diwethaf, mae Llywodraeth Cymru yn falch o gadarnhau bod yr asesiadau personol ar-lein ar gael i ysgolion yn awr.

Ewch i’r dudalen asesiadau personol ar Hwb i weld fideos a deunyddiau cymorth eraill, a chael gwybod sut i drefnu’r asesiadau. Am fwy o wybodaeth ar yr asesiadau, darllenwch eu Llawlyfr Gweinyddu a’r cwestiynau cyffredin ar Dysgu Cymru.

Anfonwyd llythyr i benaethiaid yr wythnos hon gyda chanllawiau ar sut i fewngofnodi i’r wefan asesiadau a derbyn y cytundeb data. Os nad ydych chi wedi derbyn y llythyr hwn erbyn 7 Rhagfyr, cysylltwch â’r Ddesg Gymorth ar 029 2026 5099 neu e-bostiwch Cymorth@asesiadaupersonol.cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi creu animeiddiad syml i gyflwyno’r asesiadau personol.