Awst 2018: Canlyniadau TAG Safon Uwch/Uwch Gyfrannol
(Canlyniadau dros dro ar y diwrnod)

Datganiad Rhanbarthol i’r Wasg

Hoffai GwE longyfarch dysgwyr ar eu llwyddiannau yn yr arholiadau Safon
Uwch ac Uwch Gyfrannol eleni. Rydym yn falch iawn bod holl waith caled y
staff a’r dysgwyr wedi talu’n ôl.

Mae Cymru wrthi’n profi cyfnod o newidiadau yn nefnydd mesuriadau
perfformiad o fewn y system atebolrwydd. Un agwedd o’r newid hwn yw’r ffordd
yr ydym yn adrodd ar ddeilliannau rhanbarthol a lleol. Mae GwE eisoes yn
gweithio’n agos ag ysgolion i dracio perfformiad dysgwyr unigol dros amser, a
fydd yn golygu bod arweinwyr ysgol a’n hawdurdodau lleol mewn sefyllfa dda i
fesur ble mae ysgolion yn gwneud cynnydd da a ble y gall fod angen cefnogaeth
bellach arnynt.

Fel yn y gorffennol mae cynllunio effeithiol gan ysgolion y rhanbarth wedi
sicrhau bod gan ddysgwyr fynediad at lwybrau priodol yn dilyn derbyn eu
canlyniadau.

Nododd Karen Evans, Cyfarwyddwr Arweiniol GwE:

“Mae lle, unwaith eto, i ymfalchïo yn llwyddiant ein pobl ifanc.
Dymunaf ddiolch i’r ysgolion a’r athrawon am eu gwaith caled a’u
proffesiynoldeb, y dysgwyr am eu hymdrechion a’r rhieni am eu cefnogaeth
gyson.”

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Thomas, Cadeirydd Cydbwyllgor GwE:

“Mae’r dysgwyr i’w llongyfarch am eu hymroddiad a’u dyfalbarhad a charwn
hefyd gyflwyno fy niolch diffuant i’r athrawon am eu gwaith caled yn ystod y
flwyddyn ac am baratoi’r dysgwyr mor drylwyr ar gyfer yr arholiadau.

“Hoffwn ddymuno’r gorau i’n pobl ifanc wrth iddynt wneud dewisiadau ar gyfer
y camau nesaf yn eu gyrfaoedd.