Cynhadledd Addysg Genedlaethol

ar gyfer Penaethiaid a Rhanddeiliaid Allweddol

 

 

CWRICWLWM I GYMRU: TROI’R GORNEL – Y CAMAU PWYSIG NESAF AR GYFER POB YSGOL

Dydd Iau, 23 Tachwedd 2017 – Venue Cymru, Llandudno

Yn dilyn lansio ‘Addysg yng Nghymru – Cenhadaeth ein cenedl’, hoffem eich gwahodd i’r gynhadledd addysg genedlaethol ar gyfer penaethiaid a rhanddeiliaid allweddol. Rydym wedi cyrraedd cam hollbwysig yn y gwaith o ddatblygu ein cwricwlwm newydd. Fe wnaethom rannu manylion y broses o gyflwyno’r cwricwlwm â chi yn ‘Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl’. Bydd y gynhadledd hon yn gyfle i ddeall yr hyn sy’n digwydd o hydref 2017 i Fedi 2021. Bydd hefyd yn cynnwys cyflwyniadau gan holl grwpiau’r Meysydd Dysgu a Phrofiad.

Yn wahanol i’r blynyddoedd blaenorol, byddwn yn gweithio’n agos â’r consortia rhanbarthol i sicrhau bod y cynadleddau cenedlaethol wedi’u teilwra i anghenion pob rhanbarth.

Bydd y gynhadledd yn canolbwyntio ar:

  • Rannu mwy o fanylion ynglŷn â datblygiad y Meysydd Dysgu a Phrofiad;
  • Ddwyn ynghyd holl ysgolion y rhanbarth i godi ymwybyddiaeth o’r cynnydd a wnaed hyd yma;
  • Ymgysylltu a chefnogi wrth i ni ddynesu at 2022.
  • Rôl y Consortia Addysg Rhanbarthol wrth gefnogi ysgolion.

Bydd y diwrnod yn gyfle i glywed oddi wrth grwpiau’r Meysydd Dysgu a Phrofiad cenedlaethol a cheir amser i archwilio sut gall ysgolion weithio o fewn eu rhanbarthau i sicrhau fod y cwricwlwm yn gweithio ar gyfer bob dysgwr.

Ymhlith y prif siaradwyr fydd:

  • Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg,
  • Yr Athro Dylan Jones.

Archebwch eich lle yma.