Cynhadledd Flynyddol Rhanbarthol Penaethiaid Cynradd (Llywodraeth Cymru)

Dydd Iau, 7 Mehefin 2018 – Venue Cymru, Llandudno

Cliciwch yma, am gopi o gyflwyniad y diwrnod.

Cynhaliodd Llywodraeth Cymru eu Cynhadledd Flynyddol Rhanbarthol i Benaethiaid Cynradd ar 7fed Mehefin 2018.

Gyda’n gilydd rydym yn gwneud penderfyniadau pwysig ar ein gallu cyd-weithredol i roi siâp ar system addysg sydd yn fodern, yn arloesol ac ardderchog.

Rydym mewn cyfnod cwbl allweddol wrth i ni ddatblygu a gweithredu Cenhadaeth ein Cenedl, a chredaf yn gryf fod angen i ni gynnig cyfle i sicrhau ein bod ni’n cytuno ar y meysydd i ganolbwyntio arnyn nhw a’u gwreiddio nhw o fewn ein hysgolion, tra hefyd yn trafod blaenoriaethau eraill a cheisio cytuno ar sut y gallwn symud ymlaen gyda’r rheini.

Bydd y gynhadledd yn cynnig cyfle i ni gyd, i ddod ag arweinwyr oddi wrth y 3 haen sy’n allweddol i Addysg yng Nghymru, at ei gilydd.  Y rhain yw:

  • Arweinwyr ein hysgolion cynradd ac ysgolion arbennig y cyfnod cynradd;
  • Arweinwyr addysg ein consortia a’n hawdurdodau lleol;
  • Arweinwyr y Gyfarwyddiaeth Addysg yn Llywodraeth Cymru.

Rydym hefyd yn sicrhau fod arweinwyr o fewn ein partneriaid yn cael eu cynrychioli, sef Estyn, Cyngor y Gweithlu Addysg ac Addysg Uwch, er mwyn eu galluogi nhw i’ch cefnogi chi wrth i chi gyflawni eich amcanion.

Bydd y diwrnod yn canolbwyntio ar:

  • gynnig cyfle gwerthfawr i benaethiaid allu gweithio mewn partneriaeth gydag unigolion allweddol o Lywodraeth Cymru a phartneriaid allweddol o Estyn, swyddogion o Awdurdodau Lleol a swyddogion Esgobaethol, ynghyd ag arbenigwyr rhyngwladol.
  • rhannu a thrafod parthed yr egwyddorion a fydd yn cael eu gosod ar waith ar gyfer asesu a gwerthuso yn y dyfodol o’r canlynol:
    • Ysgolion
    • Awdurdodau Lleol
    • Consortia Rhanbarthol
    • Llywodraeth Cymru
  • rhannu a thrafod parthed sut y bydd hunan werthuso mewn ysgolion yn darparu seilwaith i’r system hunan wella yng Nghymru.
  • cynnig cyfle i Benaethiaid ddarparu mewnbwn i’r prosiect ar-y-cyd rhwng Estyn a’r OECD i greu pecyn hunan-werthuso a gwelliant cenedlaethol sydd yn cael ei weithredu ar gyfer Llywodraeth Cymru.

Rydym yn falch o allu cyhoeddi y bydd Steve Munby, Graham Donaldson ac eraill yn siarad yn y digwyddiad.