Deall Cysyniadau Mathemategol yn y Cyfnod Sylfaen

Gareth Metcalfe

Datblygiad Proffesiynol ar gyfer holl Athrawon Cyfnod Sylfaen – Deall Cysyniadau Mathemategol yn y Cyfnod Sylfaen, Gareth Metcalfe

Bydd Gareth Metcalfe yn cynnal gweithdai mathemateg yn ystod Tymor Yr Hydref 2017 a Thymor y Gwanwyn 2018. Bydd y gweithdai am ddim i holl athrawon CS.

Cynhelir dros gyfnod o ddwy sesiwn hanner diwrnod, gyda’r un athrawon yn cymryd rhan yn y ddwy sesiwn, fis ar wahân.

(Noder – Bydd y gweithdai yn cael eu cynnal drwy gyfrwng y Saesneg a cyfyngir y nifer i gychwyn ar gyfer un o bob ysgol)

Amcanion

  • Deall y sgiliau synnwyr rhif sydd eu hangen ar blant er mwyn datblygu rhwyddineb mewn mathemateg gynnar.
  • Ystyried amrywiaeth o strategaethau i blant ddysgu defnyddio strategaethau heb gyfrif wrth wneud cyfrifiadau cynnar.
  • Edrych ar sut y gellir dyfnhau’r dysgu ym meysydd annibynnol darpariaeth y Cyfnod Sylfaen.

 

Rhan 1
Rhennir tystiolaeth i ddangos pwysigrwydd mathemateg gynnar, a byddwn yn chwarae gemau a fydd yn helpu’r aelodau i ddeall yr anawsterau a gaiff plant wrth ddatblygu rhwyddineb gyda rhif cynnar. Yna, byddwn yn edrych ar y ‘berthynas synnwyr rhif’ sydd ei hangen ar blant er mwyn sicrhau rhwyddineb mewn mathemateg gynnar. Bydd hyn yn golygu defnyddio gwahanol gynrychioliadau gweledol. Aiff athrawon ati i feddwl sut mae darpariaeth y CS yn eu lleoliad nhw yn helpu i hybu synnwyr cryf a hyblyg o rif.

Rhan 2
Cyflwynir gwahanol strategaethau i blant ddysgu cyfrifo, heb gyfrif, er mwyn annog plant i resymu’n fathemategol. Rhennir gwahanol gemau, syniadau ac adnoddau i atgyfnerthu’r sgiliau hyn o fewn y meysydd annibynnol, yn unol â model y Cyfnod Sylfaen. Cyflwynir y dasg gymhwyso hefyd. Tasg gymhwyso: datblygu gweithgareddau synnwyr rhif ac/neu dechnegau cyfrifo heb gyfrif o fewn cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen.

Amcanion:

  • Edrych ar dechnegau i gynllunio cyfres o wersi sy’n meithrin dealltwriaeth ddofn yn null y Cyfnod Sylfaen.
  • Edrych ar sut mae modd defnyddio delweddau ac offer i ddatblygu dealltwriaeth gysyniadol ar draws y cwricwlwm mathemateg.

 

Rhan 1
Byddwn yn edrych ar ddeilliannau’r dasg gymhwyso, ac yn adrodd yn ôl. Yna, byddwn yn edrych ar y cysyniadau allweddol a’r ‘syniadau mawr’ y mae angen i blant eu deall mewn gwahanol feysydd o’r cwricwlwm mathemateg, a sut y gellir mynd i’r afael â nhw yn ymarferol. Byddwn yn edrych ar sut y gellir mynd i’r afael â’r cysyniadau hyn ymhellach gan ddefnyddio offer a delweddau. Cyflwynir y ‘map cynrychioliadau gweledol’ i helpu ysgolion ddefnyddio offer a delweddau yn gyson drwy gydol y Cyfnod Sylfaen.

Rhan 2
Edrychir ar sut y gellir cyflwyno modelu bar, a’i defnyddio i feithrin dealltwriaeth o gyfrifo a datrys problemau. Rhennir gwahanol gemau a gweithgareddau i ddyfnhau’r dysgu, a rhoi elfen o her ym mhob rhan o ddarpariaeth fathemategol y Cyfnod Sylfaen.

DISGWYLIR I’R ATHRAWON SY’N MYNYCHU YMRWYMO I’R DDWY SESIWN (WEDI NODI’R DYDDIADAU ISOD)

LLEOLIAD GWEITHDY CYNTAF AIL WEITHDY AMSER
Gwesty Beaufort Park 23/10/2017 31/01/2018 8:45yb – 12:00yp
OpTIC, Llanelwy / Oriel House, Llanelwy 23/10/2017 – OpTIC 31/01/2018 – Oriel House 1:15yp – 4:30yp
Ramada Plaza, Wrecsam 24/10/2017 02/02/2018 8:45yb – 12:00yp
Glasdir, Llanrwst 13/11/2017 06/02/2018 8:45yb – 12:00yp
Plas Tan y Bwlch / Coed y Brenin 13/11/2017 – Plas Tan y Bwlch 06/02/2018 – Coed y Brenin 1:15yp – 4:30yp
Tŷ Menai, Bangor 14/11/2017 07/02/2018 8:45yb – 12:00yp
Tŷ Menai, Bangor 14/11/2017 07/02/2018 1:15yp – 4:30yp

Am ragor o wybodaeth am Gareth Metcalfe – www.iseemaths.com
Unrhyw gwestiynau, e-bostiwch – llythrenneddarhifedd@gwegogledd.cymru