Select Page

Dydd Miwsig Cymru 2019

DYDD GWENER, 8 CHWEFROR 2019

Dydd Gwener Chwefror yr 8fed – dyna’r dyddiad i ddyddiaduron ffans cerddoriaeth Cymru ac ar draws y byd, dyddiad y pedwerydd Dydd Miwsig Cymru.

Dyma cwpl o syniadau ar gyfer Dydd Miwsig Cymru yn eich ysgol chi: disgo neu gig yn yr ysgol, cwis miwsig, carioci Cymraeg, gwisgo fyny fel eu hoff artist, creu fideo Dydd Miwsig Cymru, chwarae rhestrau chwarae Dydd Miwsig Cymru yn yr ysgol a/neu rhannu rhestrau chwarae Dydd Miwsig gyda rhieni.

Cofiwch ddefnyddio yr hashnod #DyddMiwsigCymru. I wybod mwy dilynwch DyddMiwsigCymru ar Twitter.