Cynhadledd Haf ITM Dyfodol Byd-Eang

Nod y gynhadledd yw cynnig syniadau ymarferol, arloesol ac effeithiol i athrawon er mwyn cyfoethogi dysgu ac addysgu ieithoedd yng nghyfnod allweddol 3 a chyfnod allweddol 4.

Bydd Martine Pillette, sy’n Ymgynghorydd, Awdur, Hyfforddwr ac Arholwr tra phrofiadol,  yn rhoi sawl cyflwyniad fydd yn rhoi sylw i destunau megis dysgu ac addysgu ffonics, gramadeg a gweithgareddau cyfathrebu.  Bydd hefyd yn cyflwyno rhai syniadau ar gynllunio a chynlluniau gwaith, fydd yn ddefnyddiol iawn, yn enwedig yng ngoleuni’r Cwricwlwm Newydd.

Er y bydd y rhan fwyaf o’r enghreifftiau mewn Ffrangeg neu Sbaeneg, mae’r cwrs hwn yn addas i bob athro iaith yn y sector uwchradd.