Grant Dysgu Proffesiynol 2019-2020

Yn ystod y flwyddyn ariannol hon, mae’r grant dysgu proffesiynol wedi’i ddyrannu i chwe awdurdod lleol y rhanbarth (ac nid i GwE). Bydd y cyllid yn cael ei ddirprwyo yn gyfan i ysgolion. Mae’r dull o bennu lefel y cyllid wedi’i gyfrifo yn ôl y telerau a’r amodau a nodwyd yn fanwl gan Lywodraeth Cymru, h.y. mae’r dull a ddefnyddir i bennu cyllid ar lefel ysgol yn cael ei gyfrifo ar sail niferoedd yr athrawon cyfwerth â llawn amser ar adeg y cyfrifiad dilys diweddaraf. Y data hwn fydd yn gyrru dyraniad cyllid LlC i AauLl ar gyfer 2019/20, sy’n seiliedig ar yr un egwyddorion â  dyraniadau 2018/19.

Mae eich awdurdod lleol eisoes wedi cadarnhau   dyraniadau ysgolion unigol. Bydd y cyllid yn cael ei drosglwyddo’n uniongyrchol i gyllideb yr ysgol drwy eich awdurdod lleol.

Dyma delerau ac amodau’r grant, fel y nodwyd gan Lywodraeth Cymru:

  • Y disgwyliad yw y bydd y cyllid yn helpu ysgolion i fodloni gofynion y Dull Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol (NAPL) newydd a bod yn fodd i fuddsoddi yn elfennau’r model. Er enghraifft, mae’n fodd i fuddsoddi yn llwybrau dysgu proffesiynol unigol ymarferwyr a buddsoddi mewn cydweithrediad.  
  • Prif ddiben y cyllid yw creu amser mewn ysgolion i ymarferwyr wneud y newidiadau i arferion sydd eu hangen cyn gwireddu’r cwricwlwm newydd. 
  • Bydd y cyllid yn targedu’r dysgu sydd ei angen ar athrawon a dysgwyr i’w paratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd. 
  • Y disgwyliad ar gyfer y cyllid yw y bydd pob ymarferydd yn cael cyfle i gymryd rhan mewn dysgu proffesiynol gan ddefnyddio’r cyllid. Nid yw’n cael ei gadw’n arbennig at ddefnydd athrawon ac arweinwyr a dylid ei ddefnyddio, er enghraifft, i alluogi cymorthyddion dysgu i gael mynediad i  ddysgu proffesiynol.
  • Nid yw’n cael ei gadw’n arbennig i gefnogi athrawon ac arweinwyr a dylid ei ddefnyddio i gefnogi pob ymarferwr sy’n cefnogi’r addysgu a’r dysgu mewn dosbarthiadau, gan gynnwys cymorthyddion dysgu/cynorthwywyr cymorth dysgu
  • Dylid defnyddio’r cyllid i gefnogi ymwneud â’r cynnig dysgu proffesiynol rhanbarthol, neu gynnig proffesiynol, er enghraifft SAU, neu i gefnogi dysgu proffesiynol ar y cyd ar draws ysgolion 

 

Yn unol â hyn, dylai’r cyllid gael ei ddefnyddio i gefnogi meysydd megis:

  • y broses gyffredinol o ryddhau athrawon a chymorthyddion dysgu i gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu proffesiynol;
  • talu unigolion, gan greu rolau a swyddi, i gefnogi’r gwaith o gydlynu gweithgareddau DP ar draws ysgol neu grŵp o ysgolion. Byddai’r rolau hyn yn cynnwys cefnogi cyd-weithwyr, adrannau neu ddulliau gweithredu ysgol gyfan gydag ymholi beirniadol, rheoli newid a gweithgareddau YSD;
  • costau rhyddhau er mwyn i ymarferwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau ymchwil ac ymholi beirniadol, gan ariannu amser rhyddhau i ymchwilio i oblygiadau’r cwricwlwm newydd ar gyfer eu harfer addysgu ac asesu eu hunain;
  • costau rhyddhau i alluogi ymarferwyr i gydweithio  yn yr ysgol ac ar draws clystyrau a rhwydweithiau ysgolion  –  gan gymryd rhan mewn dysgu proffesiynol ar y cyd a chynllunio ar y cyd;
  • cefnogi datblygiad rolau megis Hyfforddwr Dysgu Proffesiynol ysgol (neu lefel clwstwr)

Mae yna ddisgwyliad y bydd ysgolion yn gwneud y mwyaf o’r cyllid trwy gyfuno eu hadnoddau’n briodol ar draws clystyrau/rhwydweithiau strwythuredig i gynyddu effaith a lefel y cyllid.

 Gofynion monitro gan Llywodraeth Cymru

Dylai ysgolion gyhoeddi eu cynlluniau Dysgu Proffesiynol (naill ai ar lefel ysgol neu glwstwr) gan  amlinellu sut y maent yn bwriadu cefnogi anghenion dysgu proffesiynol yr holl ymarferwyr yn eu hysgolion, a chyflwyno adroddiad blynyddol ar y cynlluniau hynny (a chyhoeddi adroddiad byr ar eu gwefan).  

Dylai Ymgynghorwyr Cefnogi Gwelliant yn y rhanbarthau weithio ochr yn ochr ag ysgolion i ystyried y cynlluniau a chadarnhau bod y cynllun yn diwallu’r anghenion i bob pwrpas.

Er mwyn cefnogi ysgolion i gydymffurfio â’r disgwyliad hwn, crëwyd templed ac mae ar gael ar G6.  Os gellir adnabod y cyllid yng nghynllun datblygu presennol yr ysgol ac mae’n cael ei gyhoeddi, bydd hyn yn bodloni amodau’r grant.

Gofynnir i ysgolion uwchlwytho eu cynllun datblygu ysgol a’r templed (os yw’n cael ei ddefnyddio), wedi’i gwblhau, ar G6.  

Datblygwyd dogfen yn cynnwys Cwestiynau Cyffredin, ac mae ar gael ar G6.  

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y cyllid hwn, cysylltwch â’r canlynol yn y lle cyntaf:

  • O ran unrhyw ymholiadau am ddyrannu’r cyllid a sut i gael gafael arno, cysylltwch â’r tîm cyllid yn eich awdurdod lleol;
  • O ran unrhyw ymholiadau am weithgareddau gwario cymwys, monitro a gwerthuso pa mor effeithiol yw’r gwariant, cysylltwch ag Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant eich ysgol.

DOGFENNAU I’W LAWRLWYTHO:

Llythyr Grant DP 2019-2020

Templed Grant DP 2019-2020

Cwestiynau Cyffredin Grant DP 2019-2020