Grant Gwella Addysg 2019-2020

Mae’r Grant Gwella Addysg yn rhan o’r Grant Rhanbarthol Consortia Gwella Ysgolion (GRCGY).

Dywed y canllawiau bod rhaid i o leiaf 80% o’r elfen Grant Gwella Addysg o’r grant gael ei ddatganoli i ysgolion.

Yn dilyn penderfyniad y 6 awdurdod lleol, mae’r ffigyrau ar gyfer rhanbarth GwE bellach yn derfynol ac mae’n bleser gen i ddweud y caiff ysgolion o leiaf 89.68% o’r GGA.

Rydych eisoes wedi derbyn cadarnhad o’r cyfanswm y bydd eich ysgol yn ei dderbyn gan dîm cyllid eich awdurdod lleol (trosglwyddir hwn yn syth i gyllidebau eich ysgol). Ar ben hynny, mae 5.48% arall o’r gyllideb wedi’i neilltuo ar gyfer darpariaeth uniongyrchol mewn ysgolion targed (e.e. cefnogaeth i ddisgyblion SIY a disgyblion Sipsi/Teithwyr), i’w reoli gan yr awdurdodau lleol. Dyrennir 0.78% arall am y tro i’r awdurdodau lleol er mwyn darparu gweithgareddau a dargedir yn lleol, tra dyrennir 3.34% arall i gyflwyno Cynllun CALU a chefnogi trefniadau statudol Sefydlu ANG, ynghyd â chyllid ar gyfer blaenoriaethau rhanbarthol i dargedu cefnogaeth mewn Llythrennedd a Rhifedd a chydlynu’r Cyfnod Sylfaen yn rhanbarthol – darperir y cyfan gan GwE. Mae hynny’n gadael 0.73% i GwE ac i’r Awdurdodau weinyddu’r grant.

Mae cyfarwyddiadau Llywodraeth Cymru i gonsortia rhanbarthol ac Awdurdodau Lleol yn nodi nad oes angen cynlluniau gwariant grant ar lefel ysgol unigol, ac y bydd “.. Ymgynghorwyr Her y Consortia yn cefnogi a herio ysgolion i sicrhau bod eu cynlluniau datblygu ysgol yn adlewyrchu, yn briodol, eu taith tuag at welliant a’u deilliannau disgwyliedig yn unol â thelerau ac amodau’r grant a’r cynlluniau busnes cymeradwy.” Mae disgwyliad clir i ysgolion “ddarparu dadansoddiad o ddyraniad eu Grant Gwella Addysg ar gyfer Ysgolion yn eu cynllun datblygu ysgol.“

Er mwyn cefnogi ysgolion i gydymffurfio â’r disgwyliad hwn, rydym wedi llunio’r tabl atodol sy’n rhestru ystod o “bwrpasau’r grant” ac, felly, categorïau gwariant cymwys. Gofynnir i chi gwblhau’r tabl fel rhan o’ch trefn gynllunio ar gyfer gwella’r ysgol a’i rannu efo’ch Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant, gan hefyd anfon copi at dîm cyllid eich awdurdod lleol. Am bob cyllid grant ar wahân i’r Cyfnod Sylfaen, mae gennych hyblygrwydd i’w ddyrannu yn ôl yr angen rydych wedi’i adnabod drwy eich hunan arfarniad, ac er mwyn hybu unrhyw weithgareddau perthnasol yn eich Cynllun Datblygu Ysgol.

Cofiwch gysylltu â’r sawl a nodir isod yn y lle cyntaf, efo unrhyw ymholiadau am y GGA:

  • Am unrhyw ymholiadau am ddyrannu’r cyllid a sut y dylech gael mynediad ato, cysylltwch â’r tîm cyllid yn eich awdurdod lleol;
  • Am unrhyw ymholiadau am weithgareddau gwario cymwys, monitro ac arfarnu effeithiolrwydd eich gweithgareddau a gyllidir gan y GGA i wella deilliannau dysgwyr, cysylltwch ag Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant eich ysgol.

DOGFENNAU I’W LAWRLWYTHO:

Llythyr GGA 2019-2020

Templed GGA 2019-2020

Arweiniad GGA 2019-2020