Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig – 2018

Mae Menter Ysgolion Y Dreftadaeth Gymreig yn gystadleuaeth flynyddol genedlaethol a’r bwriad yw annog pobl ifanc ysgolion cynradd ac uwchradd Cymru a cholegau i gymryd mwy o ddiddordeb yn eu treftadaeth a chyfraniad eu teuluoedd a’u cymunedau iddi ac i gynorthwyo i’w diogelu. Gobeithiwn ddatblygu addysg pobl ifanc yng Nghymru drwy astudiaeth o’i hanes hi a’i diwylliant.

Yr ydym hefyd yn ddiolchgar iawn i’r
Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC – Prif Weinidog
Llywodraeth Cymru
NEGES O GEFNOGAETH

“Mae’n bwysig ein bod ni oll yn gwerthfawrogi a pharchu hanes a diwylliant cyfoethog Cymru. Mae Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig yn chwarae rhan bwysig mewn annog pobl ifanc ledled Cymru i weithio gyda’u teuluoedd a’r gymuned leol i archwilio’r gorffennol a dysgu ganddo.”

Y Fenter Dreftadaeth

Annwyl bennaeth,

Hoffem wahodd eich ysgol i gymryd rhan yn y fenter yn 2018 (unrhyw waith a gyflawnir rhwng Ebrill 2017 ac Ebrill 2018) , drwy gyflwyno prosiect treftadaeth i’r gystadleuaeth yng Nghymru.

Y mae dewis eang ac amrywiol i ysgolion wrth benderfynu ar brosiect. Sut bynnag, byddem yn croesawu rhagor o brosiectau yn ymwneud â threftadaeth gwyddoniaeth, technoleg, diwydiant, cyllid, masnach a chwaraeon a rôl menywod mewn hanes.

Mae dwy wobr arbennig am brosiectau digidol eithriadol dda; un cynradd ac un uwchradd. Edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais, ac rydym yn gobeithio gweld eich ysgol yn cael ei chynrychioli yn y Seremoni Wobrwyo ym mis Gorffennaf 2018.

Alun Morgan, Cadeirydd. MYDG

Canllawiau’r Gystadleuaeth

Gweler y wefan: www.whsi.org.uk

Amserlen 2018

  • Cofrestru ceisiadau erbyn Dydd Gwener, 2 Chwefror 2018
  • Prosiectau i’w cloriannu rhwng 16 Ebrill a 4 Mai.
  • Cyflwyno gwobrau / dyfarniadau ar ddydd Gwener, 6 Gorffennaf 2018 ym Mhrifysgol De Cymru (Campws Trefforest).

 

Gwobrau 2018

  • Rhoddir llu o wobrau gan noddwyr i’r ymgeiswyr gorau yn y Cyfnod Sylfaen, Cynradd, Ysgolion Uwchradd gan gynnwys Colegau Chweched Dosbarth ac Ysgolion Arbennig.
  • Cyflwynir Tariannau Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig (rhoddedig gan Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan) i’r cystadleuwyr gorau o blith ysgolion cynradd ac uwchradd ac ysgolion arbennig.
  • Gwobr Eustory: Ymweliad ag ysgol haf hanes yn Ewrop.

Y mae’r gystadleuaeth yn un hawdd rhoi cynnig arni ac y mae llawer o enghreifftiau o’r mwynhad a’r cyfoeth profiadau y mae wedi’u rhoi i bobl ifanc a’u hathrawon.

I gymryd rhan yn y gystadleuaeth a wnewch chi ddychwelyd y ffurflen isod os gwelwch yn dda erbyn 2 Chwefror, 2018 at:

Alison Denton
Tŷ Gwyn, The Bryn
Y Fenni,
NP7 9AL

alison.denton1862@outlook.com

 

 

Am ragor o wybodaeth ac / neu os am gofrestru ar-lein ymwelwch â gwefan yr WHSI.

Roedd y Gwobrau, y Grantiau a’r Nawdd yn ymestyn o £100 9 £15,000 yn y flwyddyn 2017

Mae Menter Ysgolion Y Dreftadaeth Gymreig yn elusen gofrestredig annibynnol (Rhif 1048155).

Yr Ymddiriedolwyr yw:

Catrin Stevens, Stuart Broomfield ac Alun Morgan

Mae Menter Ysgolion Y Dreftadaeth Gymreig yn aelod o EUSTORY, rhwydwaith o wledydd yn Ewrop sy’n trefnu cystadlaethau treftadaeth/hanes.
Mae Eustory yn cynnig gwobrau i bobl ifanc Blwyddyn 13 (Chweched Uchaf) sydd wedi bod yn rhan o Fenter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig.