Rhaglen ar-lein SKILLS
(Support for Kids in Learning and Language Strategies)
ar gyfer Rhieni a Staff Cefnogi Ysgol
2018 – 2019

A yw eich ysgol gynradd eisiau gwellhau ymddygiad disgyblion a’ch perthynas gyda rhieni?

Oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o ddadansoddiad peilot bach o raglen ar-lein i gymorthyddion dosbarth 1:1 a rhieni?

Os felly, rydym yn eich gwahodd i ymuno a phrosiect cyffroes…

Os oes gennych ddiddordeb ymuno a’r astudiaeth hon, gyrrwch ebost i margiad.williams@bangor.ac.uk neu ffoniwch 01248 383627

Beth yw rhaglen ar-lein SKILLS a sut y bydd o fudd i’m hysgol? Mae’r rhaglen ar-lein SKILLS (Support for Kids in Learning and Language Strategies) yn cynnwys chwe sesiwn (pump gyda chynnwys ac un sesiwn adolygu).

Y pum pwnc yw:

  • Cryfhau perthnasau
  • Canmol ymddygiad positif plant
  • Sut i roi cyfarwyddiadau effeithiol
  • Dysgu ymddygiadau newydd
  • Hyrwyddo sgiliau iaith

Yn yr astudiaeth hon nôd y rhaglen yw gwellhau lefel sgiliau cymhorthyddion dosbarth a rhieni drwy ddarparu strategaethau newid ymddygiad iddynt a all efallai wellhau canlyniadau plant gydag anghenion dysgu ychwanegol a/neu heriau ymddygiadol. Caiff y sesiynau eu cynnal yn wythnosol. Mae esiamplau fideo o strategaethau positif a chwisiau ar ddiwedd pob sesiwn wedi’u cynnwys i atgyfnerthu dysgu. Yna caiff aseiniadau eu gosod am yr wythnos.

Gall SKILLS fod o fudd i’ch ysgol yn y ffyrdd yma:

  • I wellhau sgiliau iaith ag ymddygiad disgyblion dethol sy’n cael cymorth 1:1.
  • I ddarparu sgiliau ychwanegol i gymorthyddion dosbarth a rhieni i reoli anawsterau ymddygiadol a hybu sgiliau iaith.
  • I gryfhau’r berthynas rhwng rhieni a’r ysgol er mwyn cefnogi’r disgyblion dethol.
  • I hybu’r defnydd o ymyraethau ar sail tystiolaeth i godi safonau mewn rheolaeth ymddygiad a hyrwyddo iaith.
Sut ydym yn gwybod bod SKILLS yn effeithiol? Mae SKILLS wedi’i seilio ar y ‘Llawlyfr Bach Rhieni’ sy’n disgrifio strategaethau allweddol ag offerynnau i hyrwyddo perthnasau rhieni-plant positif. Mae’r llyfr wedi’i seilio ar werth 30 mlynedd o waith gyda rheuluoedd plant gyda phroblemau ymddygiad. Yn ddiweddar, cafodd y llyfr ei addasu i raglen rhiantu ar y we i rieni plant 3-8 mlwydd oed (Owen, 2018) ac roedd yn effeithiol yn cynyddu ymddygiadau positif rhieni a lleihau ymddygiadau heriol.

Datblygwyd addasiad pellach yn ddiweddar ar gyfer cymorthydddion dosbarth gyda chynnwys ychwanegol ar gyfer lleoliad dosbarth (Jones, 2018). Dangosodd y canlyniadau cynnydd arwyddocaol mewn cymhwysedd staff a strategaethau i annog iaith.

Owen, D. A. (2018). Evaluation of the COPING parent online universal programme (PhD Thesis). Bangor University, UK.

Jones, A. R. (2018). An evaluation of the SKILLS online programme for school support staff (Master’s Thesis). Bangor University, UK.

Pa ddisgyblion/staff wnaiff gael budd o SKILLS? Mae SKILLS wedi’i ddatblygu ar gyfer cymorthyddion dosbarth sy’n treulio o leiaf rhywfaint o’u hamser yn cefnogi plentyn 3-7 mlwydd oed ar sail 1:1. Efallai bod y plant yma angen cymorth ychwanegol oherwydd heriau ymddygiad neu anghenion dysgu ychwanegol. Bydd y rhaglen hefyd yn cael ei gynnig i riant yr un plentyn mae’r cymhorthydd dosbarth yn ei gefnogi.
Beth fydd angen i ysgolion gyfrannu? Er mwyn i’r prosiect redeg yn effeithiol, mae cyfraniadau pwysig i bob ysgol sy’n cymryd rhan yn yr astudiaeth. Bydd angen i bob ysgol:

  • Adnabod cymhorthydd dosbarth sy’n treulio rhywfaint o’u hamser yn cefnogi plentyn 3-7 mlwydd oed ar sail 1:1 ac sydd efo diddordeb mewn cymryd rhan.
  • Cysylltu gyda rhiant y plentyn i ofyn a fuasent nhw gyda diddordeb cymryd rhan. Os nad yw’r rhiant yn cytuno, ac mae’r cymhorthydd dosbarth yn cefnogi plentyn arall ar sail 1:1 gall yr ysgol gysylltu gyda rhiant y plentyn hwnnw. Ni fydd y cymhorthydd dosbarth yn gymwys i gymryd rhan os nad yw’r rhiant yn cytuno i gofrestru ar gyfer y rhaglen.
  • Gyrru manylion cymorthyddion dosbarth a rhieni sydd efo diddordeb i’r tîm ymchwil gan ddefnyddio’r ffurflen briodol.
  • Sicrhau bod y cymorthyddion dosbarth yn cael awr yr wythnos am chwe wythnos i gwblhau’r rhaglen ar-lein.
Beth y’wr gost i bob ysgol? Bydd DIM cost i’ch ysgol am gymryd rhan yn y prosiect hwn.
Sut y byddem yn mesur effaith? Bydd gofyn i gymorthyddion dosbarth a rhieni gwblhau ychydig o holiaduron sy’n archwilio ymddygiad, cymhwysedd, a straeth. Bydd hefyd arsylwad 20-munud o’r cymhorthydd dosbarth gyda’r plentyn yn yr ysgol a’r rhiant gyda’r plentyn yn y cartref. Bydd yr arsylwad yn cynnwys sesiwn 10-munud o chwarae a 10-munud yn rhannu llyfr gyda’r plentyn. Caiff ei recordio ar fideo ar gyfer dadansoddiad yn ddiweddarach.
Beth sy’n digwydd nesaf? Os oes gennych ddiddordeb ymuno a’r astudiaeth neu eisiau mwy o wybodaeth, gyrrwch e-bost i margiad.williams@bangor.ac.uk neu ffoniwch 01248 383627.

 

Tîm y Prosiect

Enw Swyddogaeth Sefydliad Manylion Cyswllt
Yr Athro Judy Hutchings Cyfarwyddwr Canolfan Ymyrraeth Gynnar ar Sails Tystiolaeth (CYCST), Prifysgol Bangor j.hutchings@bangor.ac.uk
Swyddfa: 01248 383625
Dr Margiad Williams Swyddog Ymchwil CYCST, Prifysgol Bangor margiad.williams@bangor.ac.uk
Swyddfa: 01248 383627
Julia Thomson Myfyriwr gradd Meistr CYCST, Prifysgol Bangor jlt18pgj@bangor.ac.uk
Swyddfa: 01248 382193