Datblygu arweinyddiaeth ysgolion ar draws y rhanbarthau – Gorffennaf 2018

gan Debbie Harteveld (Rheolwr Gyfarwyddwr, Gwasanaeth Cyflawni Addysg)

CEFNDIR

Ers y ddwy flynedd ddiwethaf, bu’r pedwar rhanbarth yn cydweithio i ddatblygu arlwy dysgu proffesiynol ar gyfer arweinwyr mewn ysgolion. Ym mis Gorffennaf 2016, dechreuwyd ar y gwaith trwy greu rhaglen i Ddarpar Benaethiaid, rhaglen newydd Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP). Cyflymwyd y cydweithio hwn yn sgil cyflwyno Bwrdd Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol ac mae’r rhanbarthau wedi ymateb yn briodol gan gytuno i ehangu’r gwaith cyffredin yn raddol.

“Ein her, fel y nodwyd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad    Economaidd (OECD), yw sicrhau dull cenedlaethol o weithredu i wella arweinyddiaeth, a gwneud yn siŵr bod hynny’n llywio’r diwygiadau ym maes addysg.

Mae’r dystiolaeth yn dangos y gall yr arweinwyr yn ein hysgolion wneud gwahaniaeth mawr. Rwyf am inni gael yr arweinwyr iawn sy’n meddu ar y sgiliau iawn i wella safonau a phennu’r disgwyliadau uchaf ar gyfer pob un o’n pobl ifanc.”

Kirsty Williams, Cabinet Secretary May 2017

Mae’r rhanbarthau wedi ymroi i ddatblygu dysgu proffesiynol mewn partneriaeth gydag arweinwyr ac athrawon. Mae apwyntiad 12 o Gymdeithion yr Academi hefyd yn darparu cefnogaeth ychwanegol ac arbenigedd sydd i’w croesawu i’r system.

 

BLE’R YDYM NI ARNI?

Gydag arweinyddiaeth addysgol ar frig yr agenda ar gyfer datblygu addysg i raddau helaeth iawn, sefydlwyd tîm prosiect traws-ranbarthol ac mae’n gweithio i roi sylw i’r amrywiadau rhanbarthol a ganfuwyd yn yr arlwy arweinyddiaeth sydd ar gael. Ffocws y tîm prosiect yw:

  • Datblygu darpariaeth unffurf, o ansawdd uchel, i Ddarpar Benaethiaid, Penaethiaid sy’n newydd i’r swydd a Phenaethiaid Dros Dro a Phenathiaid Profiadol (yn unol ag amserlen gymeradwyaeth gan yr Academi), i’w chynnig ar draws y pedwar rhanbarth, er mwyn cynyddu nifer yr arweinwyr medrus ar draws Cymru;
  • Datblygu’r genhedlaeth nesaf o benaethiaid a sicrhau eu bod wedi’u paratoi’n dda ar gyfer rôl hanfodol prifathrawiaeth, ac yn cael cynnig rhaglen barhaus o ddatblygiad proffesiynol i’w cefnogi i mewn i’r swydd;
  • Datblygu ymhellach sgiliau, arbenigedd a gwybodaeth y cnewyllyn o arweinwyr llwyddiannus sydd yn y rhanbarth yn barod, i’w galluogi i gynnig arweinyddiaeth system ehangach wrth i ni symud tuag at system a arweinir gan yr ysgol, a modelau strwythur newydd ar gyfer ysgolion megis ffederasiynau;
  • Darparu llwybr cydlynol o ddatblygiad ar hyd y llwybr dysgu proffesiynol, o Addysg Gychwynnol Athrawon i Brifathrawiaeth Weithredol.

Hyd yn hyn mae’r tîm prosiect dros-ranbarthol wedi cynllunio Rhaglen i Benaethiaid Newydd eu Penodi a Phenaethiaid Dros Dro a Rhaglen Ddatblygu i Benaethiaid Profiadol. Datblygwyd cynnwys manwl ar gyfer y ddwy raglen, dilyswyd cynllun y rhaglen yn erbyn sail dystiolaeth, crëwyd llawlyfrau hwyluso unffurf ac mae yna fethodoleg ar waith i ddal yr effaith. Elfen hanfodol yw bod y ddwy raglen wedi cael eu mapio yn erbyn Rhaglen Ardystio’r Academi Arweinyddiaeth, a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Bu’r rhaglenni’n ddarostyngedig i broses ymgynghori gyda grwpiau strategaeth penaethiaid a Chyfarwyddwyr Addysg Awdurdodau Lleol, ar draws pob un o’r pedwar rhanbarth, a bu penaethiaid o bob rhan o’r rhanbarthau ynghlwm â’r gwaith o ddrafftio cynnwys y rhaglenni.

Yn ystod y broses o gynllunio a datblygu’r rhaglenni, amlygwyd yr angen am gymorth sylweddol gan anogwyr dysgu i sicrhau y cyflwynir y rhaglenni’n llwyddiannus. Arweiniodd y trafodaethau hyn at ddrafft cyntaf “Rhaglen Anogwyr Dysgu Addysg Cymru Uchel eu Perfformiad”. Sail y rhaglen ddrafft hon yw datblygu a sefydlu diwylliant newydd o annog a mentora ym maes Addysg yng Nghymru.

 

ACHREDIAD

Bu achrediad yn elfen hanfodol wrth ddatblygu’r rhaglen arweinyddiaeth, a chafwyd trafodaeth gynhwysfawr ar amrywiol opsiynau ac fe’u gwerthuswyd, gan arwain at gyhoeddi “gwahoddiad i dendro” ar y cyd ym mis Mawrth 2018. Y rhesymeg wrth fynd ati ar y cyd i achredu, oedd sicrhau un darparwr a fydd yn fwy effeithiol na cheisio rheoli nifer o ddarparwyr, sicrhau darbodion maint ac, yn hanfodol, darparu cymhwyster cludadwy a safonedig. Yn dilyn y broses dendro ffurfiol, penodwyd Yr Athrofa a Phrifysgol Bangor ac mae’r rhaglen achrededig gyntaf yn dechrau ym mis Medi 2018.

 

Y CAMAU NESAF

Gyda’r holl ffactorau hyn yn eu lle, cyflwynwyd y rhaglen i Benaethiaid Newydd eu Penodi a Phenaethiaid Dros Dro i’r Academi Arweinyddiaeth yn ddiweddar, i’w hardystio, ac roeddem wrth ein bodd i glywed yr wythnos ddiwethaf, fod yr hyn a gyflwynwyd gennym wedi llwyddo, a’r rhaglen wedi ei hardystio’n llwyr. Serch hynny, mae’r tîm eisoes yn gweithio i gwblhau’r gwaith i’w gyflwyno ar gyfer y rhaglen i Benaethiaid Profiadol ym mis Medi ac, ar yr un pryd, yn gyrru datblygiad achrediad ar draws continwwm datblygiad proffesiynol Arweinyddiaeth, o Gynorthwyydd Addysgu i Bennaeth Gweithredol. Bydd gwerthuso effaith ac ymchwil i arweinyddiaeth hefyd yn parhau i fod yn ffocws pwysig wrth i ni symud ymlaen, a’r wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i fwydo datblygiadau i’r rhaglenni, ac i sicrhau bod ein rhaglenni’n parhau i fod yn addas at y diben ac yn parhau i ddarparu hyfforddiant o’r safon uchaf oll mewn Arweinyddiaeth i athrawon Cymru.

 

Am fwy o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch â:

Helen Richards
Rheolwr Prosiectau Gwaith Traws-ranbarthol
E-bost: helen.richards@sewaleseas.org.uk
Rhif ffôn symudol: 07903 546 129