Y Gymraeg mewn Addysg – Sgiliau Cymraeg y Gweithlu

Gweler isod gynnwys llythyr gan eich Pennaeth Addysg parthed ‘Y Gymraeg mewn Addysg – Sgiliau Cymraeg y Gweithlu’:

Annwyl Bennaeth,

Y Gymraeg mewn Addysg – Sgiliau Cymraeg y Gweithlu

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod gweledigaeth a her glir i gynyddu’r nifer o unigolion sy’n gallu siarad Cymraeg. Disgwylir i’r sector addysg chwarae rhan flaenllaw yn datblygu sgiliau Cymraeg pob dysgwyr ym mhob un o’n hysgolion, ac o ganlyniad i hyn, datblygu sgiliau Cymraeg y gweithlu.

I ddechrau cynllunio ar gyfer hyn, gofynnwyd i bob consortiwm drefnu awdit o sgiliau Cymraeg y gweithlu ymhob ysgol.

Er mwyn codi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd y gwaith yma, rhoddir cyflwyniadau i grwpiau penaethiaid ymhob un o siroedd y gogledd, ond hefyd i’r fforwm undebau rhanbarthol, swyddogion sirol adnoddau dynol, a swyddogion sirol sy’n cefnogi cyrff llywodraethu.

Isod mae dau glip fideo – un yn y Gymraeg a’r llall mewn Saesneg – yn rhoi’r cefndir ar gyfer y gwaith yma ac yn gofyn am gydweithrediad bob pennaeth i gynnal yr awdit gyda phob aelod o staff – yn athrawon, cymorthyddion a staff cefnogi eraill, gan gynnwys, lle bo hynny’n bosibl, staff glanhau a staff y gegin. Trwy’r awdit yma byddwn fel rhanbarth yn gallu cynllunio hyfforddiant pwrpasol er mwyn cefnogi’r gweithlu.

Gofynnaf yn garedig i chi gymryd ychydig funudau i wrando ar gynnwys y fideo a’r negeseuon sydd ynddo. (Mae fersiwn cryno o’r clipiau fideo wedi’u cynnwys hefyd – y byddai posib efallai i chi ei rhannu efo staff yr ysgol)

Y Gymraeg mewn Addysg – Sgiliau Cymraeg y Gweithlu:

 

Welsh in Education – The workforce’s Welsh language skills:

 

Arolwg Sgiliau Iaith Gymraeg – Crynodeb:

 

Welsh Language Skills Survey – A Summary:

Yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru, y bwriad yw cychwyn yr awdit ddiwedd mis Mawrth eleni a byddwch yn fuan yn derbyn manylion pellach yn egluro’r union gamau a’r broses i ganiatáu eich staff i gwblhau’r holiadur. Bydd yr holiadur yn un electroneg ac ni ddylai gymryd llawer o amser i’w gwblhau. Yr ydym yn eich annog i roi amser i’r staff i gwblhau’r holiadur yn ystod oriau ysgol neu amser wedi ei gyfeirio. Byddwch yn derbyn cyfraniad ariannol bychan i’ch ysgol ar ôl cwblhau’r holiadur fel gwerthfawrogiad o’ch cydweithrediad.

(Er gwybodaeth – byddwn yn treialu’r holiadur ymlaen llaw mewn canran penodol o’r ysgolion ar draws y rhanbarth er mwyn adnabod unrhyw rwystrau a chael adborth ar y broses o gwblhau’r holiadur – cyn i ni ei raeadru i bawb).

Bydd yr holiadur yn cael ei anfon atoch yn uniongyrchol drwy e-bost. Yn y cyfamser, rwy’n eich annog i rannu’r wybodaeth gyda holl staff eich ysgol a gofynnaf yn garedig am eich cydweithrediad yn annog a chefnogi pob aelod o staff i gwblhau’r awdit.

Yn gywir,

Pennaeth Addysg