Gwefannau defnyddiol

www.cbac.co.uk Mae gwefan CBAC yn gronfa ganolog o wybodaeth berthnasol a defnyddiol i athrawon a swyddogion arholiadau. Mae’n cynnwys canllawiau i athrawon, cyn-bapurau, adnoddau i’r ystafell ddosbarth a chanlyniadau arholiadau, yn ogystal â gwybodaeth am gyfleoedd hyfforddiant DPP. Tanysgrifiwch i’r cylchlythyr am y newyddion diweddaraf yn rheolaidd am newidiadau, adnoddau newydd a gwybodaeth am ddiwygiadau.

hwb.wales.gov.uk Mae Hwb yn cynnig gwledd o ddeunyddiau i’r ystafell ddosbarth ym mhob pwnc a chyfnod allweddol. Mae nifer o adnoddau dwyieithog ar y wefan, yn ogystal â deunyddiau i helpu adolygu. Gall y rhai sy’n mewngofnodi i Hwb+ gyrchu a defnyddio Encyclopaedia Britannica, Image Quest a deunyddiau just 2 easy i gefnogi dysgu ac addysgu. Mae’r rhain ar gael drwy drwydded genedlaethol a gallwch eu cyrraedd drwy fewngofnodi i hafan Hwb.

www.mathemateg.com Gwefan Gymraeg yn cynnwys cyrsiau ar gyfer mathemateg TGAU a Safon Uwch. Ymhlith y cynnwys mae cwisiau; posau, cysylltau â fideos YouTube; pecynnau adolygu; cyn-bapurau arholiad (gyda’r atebion); a gemau. Cofrestru a defnyddio’n ddi-dâl.

www.mathsbox.org.uk Mae Mathsbox yn gasgliad o adnoddau ‘parod’ i athrawon mathemateg prysur. Mae’r adnoddau’n cynnwys gemau bingo, helfeydd trysor, gweithgareddau cychwynnol a llawer rhagor o ddeunyddiau difyr eraill, heb lawer o waith paratoi ychwanegol, i ychwanegu at eich gwersi. Er bod llawer o’r deunyddiau i Gyfnodau Allweddol 3 a 4, mae amrywiaeth o adnoddau yn cwmpasu elfennau o Gyfnodau Allweddol 2 a 5 hefyd wedi’u cynnwys.

www.teachitmaths.co.uk Cannoedd o adnoddau addysgu Mathemateg, gan gynnwys adnoddau rhyngweithiol gwych, wedi’u creu gan athrawon profiadol. Cofrestrwch i gael PDFs am ddim neu tanysgrifiwch i gael cynnwys y gallwch ei olygu.

www.mymaths.co.uk Mae MyMaths yn rhoi adnoddau dysgu ar-lein cyfan gwbl ryngweithiol i bob oed a gallu. Mae gwersi rhyngweithiol, gemau a thaflenni gwaith wedi’u cysylltu â system Rheolwr Asesu gref sy’n eich galluogi chi i ddysgu mewn ffordd hwyliog a deinamig, gan olrhain a chadw golwg ar gynnydd yn effeithiol.

blog.mrmeyer.com Blog ysbrydoledig gan yr athro Mathemateg o America, Dan Meyer. Yn cynnwys nifer o enghreifftiau cyd-destunol wedi’u cyflwyno mewn ffordd ddifyr gan ddefnyddio ysgogiad fideo, gan gynnwys y Three-Act Math poblogaidd. Mae hefyd yn cynnwys trafodaeth amserol am addysgu Mathemateg.

www.bowlandmaths.org.uk Yma fe gewch chi gasgliad o adnoddau am ddim i gynorthwyo gweithgareddau datrys problemau cyfoethog mewn mathemateg ysgolion uwchradd, gan gynnwys deunyddiau i’r ystafell ddosbarth, tasgau asesu ac adnoddau datblygiad proffesiynol. Mae’r deunydd wedi’i anelu at Gyfnod Allweddol 3, ond mae modd ei addasu i amrediad eang o oed a gallu.

www.kangaroomaths.com Hefyd yn cynnwys Kenny’s Pouch – tomen anferth o adnoddau mathemateg am ddim i chi eu lawrlwytho. Hefyd Bring on the Maths – gweithgareddau hyblyg a grymus ar gyfer gweithgareddau datrys problemau, wedi’u cynllunio i annog disgyblion i ddehongli a dadansoddi mathemateg, cydweithio a chyfleu penderfyniadau.

donsteward.blogspot.co.uk Blog hawdd ei ddefnyddio gydag enghreifftiau’n gysylltiedig â nifer o bynciau, gyda phwyslais ar ddyfnder, newydd-deb a chael hyd i batrymau.

ideasfortheclassroom.wordpress.com Blog diddorol a pherthnasol gan athro mathemateg o Brydain sy’n gyfrifol am Gyfnod Allweddol 4/TGAU. Yn cynnwys syniadau i fod yn greadigol yn yr ystafell ddosbarth.

emmaths.jfcs.org.uk Amrywiaeth o Dasgau Cyfoethog wedi’u cyflwyno gan athrawon a oedd yn rhan o brosiect cydweithio, o dan reolaeth Jon Stratford yn ei swydd fel Prif Ymarferydd yr Ymddiriedolaeth Ysgolion ac Academïau Arbenigol (Specialist Schools and Academies Trust). Hefyd yn delio â rhai o’r materion addysgeg sy’n ymwneud â defnyddio Tasgau Cyfoethog, ac yn awgrymu’r ffordd orau i ymgorffori Tasgau Cyfoethog yn yr ystafell ddosbarth.

prethomework.weebly.com Yn cynnwys tasgau gwaith cartref parod, yn ymwneud â mwy nag un maes, wedi’u creu gan athrawon. Mewn tasgau gwaith cartref Pret, mae disgyblion yn ymarfer, yn cofio, yn ymestyn ac yn meddwl. Mae tasgau gwaith cartref sy’n addas i Gyfnod Allweddol 2 hyd at Safon Uwch a gallwch olygu nifer o’r tasgau gwaith cartref ar y wefan hon i weddu i’ch anghenion.