Rhaglen Dysgu Carlam

Disgwylir i’r cyllid helpu ysgolion i fodloni gofynion Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau: Rhaglen Dysgu Carlam a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Addysg ar 9 Gorffennaf 2020.

Yn ystod yr argyfwng, daeth i’r amlwg nad yw nifer o ddysgwyr wedi symud ymlaen

gymaint ag y gellid ei ddisgwyl o ran eu cynnydd wrth ddysgu, ac mae rhai dysgwyr wedi’u heffeithio’n fwy difrifol nag eraill. Mae’r cyllid hwn yn galluogi buddsoddiad mewn ysgolion er mwyn caniatáu iddynt recriwtio a defnyddio mwy o bobl i helpu dysgwyr wrth roi sylw i’w hanghenion yn dilyn yr argyfwng COVID-19 cychwynnol a’r cyfnod pan oedd ysgolion ar gau.

Prif ddiben y cyllid felly yw galluogi buddsoddiad mewn ysgolion i ganiatáu iddynt recriwtio a defnyddio mwy o bobl i helpu dysgwyr wrth roi sylw i’w hanghenion yn dilyn yr argyfwng COVID-19 cychwynnol a’r cyfnod pan oedd ysgolion ar gau.

Mae pob disgybl yn gymwys i dderbyn cymorth ychwanegol wrth ddychwelyd i’r ysgol ym mis Medi, er y bydd cwmpas y cymorth angenrheidiol yn amrywio’n sylweddol gan ddibynnu ar amgylchiadau unigol. Gan fod adnoddau yn gyfyngedig, byddwn yn blaenoriaethu fel a ganlyn wrth gynllunio dyraniad yr adnoddau:

Carfannau â blaenoriaeth i gael cymorth:

Mae’r cyllid i’w dargedu at garfannau penodol sydd wedi’u nodi fel y rhai mwyaf agored i niwed, fel a ganlyn:

  1. Disgyblion sy’n paratoi ar gyfer arholiadau yn y flwyddyn academaidd nesaf (sef disgyblion blynyddoedd 11, 12 ac 13).
  2. Disgyblion agored i niwed a difreintiedig, yn unol â diffiniad amrywiol ddulliau gweithredu.
  3. Blwyddyn 7, yn sgil yr amharu wrth bontio o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd.

Mae’r carfannau penodol yma yn awgrym o’r hyn y bydd penaethiaid yn ei ystyried wrth ddosbarthu cymorth. Er bod y fformiwla cyllido yn seiliedig ar garfannau penodol o ddysgwyr, disgwylir i’r cyllid gael ei ddefnyddio i sicrhau bod unrhyw ddysgwyr sydd angen cymorth yn cael cyfle i dderbyn y cymorth hwnnw lle bynnag y bo’n bosibl. Felly nid yw wedi’u gadw yn ôl at ddefnydd y tri gr*p â blaenoriaeth a restrir ym mhwyntiau 1-3 yn unig, ac fe ddylid ei ddefnyddio i ganiatáu mynediad at gymorth lle bo angen i blant sydd wedi dioddef effaith amrywiol agweddau o’r pandemig.

Gan y bydd unigolion nad ydynt wedi’u rhestru yn y 3 gr*p â blaenoriaeth hefyd angen cymorth, mae’n egwyddor bwysig caniatáu i Benaethiaid gael ymreolaeth wrth benderfynu pa grwpiau neu unigolion y maent am eu helpu fel rhan o’u cynlluniau ysgol unigol.

Cymorth i’w Ddarparu

Diwygio’r cwricwlwm yw ein prif flaenoriaeth o hyd ar gyfer addysg yng Nghymru. Yn unol â hynny, bydd y Rhaglen hon yn canolbwyntio ar gymorth ar gyfer y canlynol:

 

  • Llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol o fewn cwricwlwm eang a chytbwys – ar gyfer y blynyddoedd arholiadau bydd hyn yn cynnwys sgiliau darllen ac ysgrifennu uwch, sgiliau mathemateg lefel uwch lle bo’n berthnasol, a chymhwysedd digidol ar lefel briodol ac fel y bo’n berthnasol i ddysgwyr sy’n symud ymlaen gyda’u cymwysterau.
  • Datblygu sgiliau dysgu annibynnol, i alluogi ac ysgogi dysgwyr ym mhob gr*p i symud ymlaen yn gynt drwy weithio’n fwy effeithiol wrth eu hunain ac allan o’r ysgol.
  • Cefnogi ac ennyn diddordeb drwy goetsio – mewn cydnabyddiaeth y bydd y dysgwyr sydd wedi ymddieithrio fwyaf angen hyfforddiant a chymorth emosiynol yn ogystal â chymorth ar gyfer paratoi ar gyfer arholiadau a sgiliau.

Beth y dylid defnyddio’r cyllid i’w ddarparu:

Mae’r grant hwn yn rhoi adnoddau ariannol penodol i greu capasiti newydd yn y system addysg.

  • Gall ysgolion benodi Athrawon Cymwys gan gynnwys Athrawon Newydd Gymhwyso, Cynorthwywyr Addysgu a rolau cynorthwyol eraill i’r ysgol (er enghraifft rolau sydd wedi’u llunio i ddarparu cymorth coetsio), yn unol â dealltwriaeth yr ysgol o anghenion y dysgwyr.
  • Gall y capasiti newydd fod yn llawn amser neu ran amser, neu gynnydd mewn
    oriau ar gyfer contract presennol lle mae’r sgiliau hynny yn angenrheidiol.
  • Gall cydweithwyr newydd weithio ar draws mwy nag un ysgol lle mae clystyrau o ysgolion yn gweithio mewn partneriaeth gydweithredol.
  • Gall penaethiaid benodi athrawon newydd i’r ysgol er mwyn rhyddhau athrawon presennol sy’n adnabod eu disgyblion orau i weithio gyda nhw i gyflymu eu cynnydd (gan lenwi eu swyddi arferol dros dro).
  • Bydd angen i sgiliau cydweithwyr newydd adlewyrchu anghenion grwpiau a dysgwyr.
  • Bydd y model cyflawni y bydd cydweithwyr newydd yn gweithio oddi mewn iddo yn benodol ar gyfer anghenion yr ysgol a’i dysgwyr.

Nid yw’r cyllid yn gymwys i gael ei ddefnyddio i brynu cyfarpar, gan gynnwys dyfeisiau TGCh, nac unrhyw ffath o ddefnyddiau traul, ac mae ddim ond i gael ei ddefnyddio i sicrhau adnoddau dynol ychwanegol i gefnogi’r rhaglen.

Disgwylir i ysgolion ddefnyddio’r cyllid yn y ffordd fwyaf effeithlon drwy gronni eu hadnoddau mewn ffordd briodol ar draws clystyrau/rhwydweithiau strwythuredig a/neu bartneriaethau cydweithredol er mwyn sicrhau’r effaith fwyaf bosibl.

Gofynion monitro

Bydd darparu swm mor fawr o gyllid ychwanegol yn golygu bod rhaid i ni i gyd sicrhau bod yr adnoddau yn cael eu defnyddio mewn ffordd dda ac yn cael yr effaith ofynnol. Fodd bynnag, rydym ni i gyd am gyfyngu ar unrhyw fiwrocratiaeth.

Yn unol â’r egwyddorion hyn, mae gofyn i chi:

  • Sicrhau bod ysgolion yn nodi’r hyn maen nhw’n bwriadu ei wneud gyda’r adnoddau mewn cynllun clir a syml.
  • Dylai’r cynllun nodi nifer y disgyblion dan sylw a rhoi amlinelliad o’r cynigion staffio a chwriwclwm.

 

  • Lle bo ysgolion yn gweithio mewn partneriaethau cydweithredol neu glystyrau, bydd cynllun unigol yn dderbyniol.
  • Dylai’r cynllun hwn gael ei gymeradwyo gan Gynghorydd Herio’r ysgol yn achos ysgolion sydd wedi’u dynodi ar hyn o bryd fel rhai sydd angen lefelau coch ac oren o gymorth gan eu consortia addysg rhanbarthol.
  • Ym mhob achos, dylai cynlluniau gael eu cymeradwyo gan Gorff Llywodraethu yr ysgol, a dylai manylion dull gweithredu yr ysgol fod ar gael i i rieni a’r gymuned ehangach.

Mae’r egwyddorion sylfaenol wrth ddosbarthu a defnyddio’r cyllid hwn fel a ganlyn:

  • caiff ei ddirprwyo’n gyfan gwbl i ysgolion a chyllidebau ysgolion;
  • mae’r dull gweithredu a ddefnyddir i bennu cyllid ar lefel yr ysgol yn unol â methodoleg dosbarthu Llywodraeth Cymru.