Gwobr Disgyblion y Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol 2018

DIM OND PYTHEFNOS SYDD AR ÔL I GYFLWYNO CAIS AM WOBR DISGYBLION Y CYNGOR DYSGU DIGIDOL CENEDLAETHOL 2018

Peidiwch ag anghofio cyflwyno eich cais am Wobr Disgyblion y Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol 2018 erbyn 5 o’r gloch ar 23 Mawrth 2018.

Bydd Gwobr Disgyblion y Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol yn cydnabod cyflawniadau disgybl neu grŵp o ddisgyblion o ysgol a gynhelir neu goleg yng Nghymru sydd naill ai wedi defnyddio technoleg mewn ffordd arloesol neu wedi creu deunydd digidol gwreiddiol rhagorol. Rhaid i geisiadau am y wobr gael eu cyflwyno gan athrawon.

Mae’r ffurflen gais a’r canllawiau i ymgeiswyr bellach ar gael ar Hwb.

Sicrhewch eich bod wedi darllen y canllawiau i ymgeiswyr cyn cyflwyno eich cais. 

Cyflwynwch eich cais erbyn dydd Gwener 23 Mawrth 2018 am 17.00.

Caiff enillydd y wobr ei gyhoeddi yn Nigwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol 2018, a fydd yn cael ei gynnal ar ddydd Mercher 20 Mehefin yn y Neuadd Arddangos, Celtic Manor, Casnewydd.

Bydd modd cofrestru ar gyfer y digwyddiad yn hwyrach yn y flwyddyn.