Adnodd Addysg am Yr Athro Gwyn Thomas

Cafodd cwmni Telesgop ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru i greu adnoddau addysgiadol am Yr Athro Gwyn Thomas ar gyfer athrawon a disgyblion (Cyfnod Allweddol 3, 4 a 5).

Platfform addysgiadol newydd yw’r wefan sy’n seiliedig ar waith un o lenorion enwocaf llenyddiaeth Cymru – Yr Athro Gwyn Thomas.

Mae’r wefan yn brosiect ar y cyd rhwng cwmni Telesgop a chyfranwyr amrywiol, ac wedi ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n bosib ei weld trwy wefan Hwb ac ar www.gwynthomas.cymru.

Mae’n cynnwys:

  • cyfoeth o adnoddau ar gyfer athrawon a disgyblion – Cyfnod Allweddol 3, 4 a 5;
  • gweithgareddau ysgrifenedig a rhyngweithiol ar destunau penodol Gwyn Thomas;
  • llinell amser rhyngweithiol yn seiliedig ar fywyd Gwyn Thomas, yn ogystal â’r hyn ddigwyddodd yng Nghymru, Prydain a’r Byd rhwng 1915-2016;
  • ffilm fer sy’n cael ei chyflwyno gan Tudur Dylan Jones, a chlipiau gan Mrs Jennifer Thomas, gwraig Gwyn Thomas, a Geraint Vaughan Jones ffrind ysgol iddo;
  • galeri o luniau

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag elin.mair@telesgop.cymru.

 

Datganiad i’r Wasg Gwyn Thomas