Cwricwlwm newydd, radical i Gymru yn cyrraedd carreg filltir gyfreithiol

Ddoe [28/01/2019], roedd Llywodraeth Cymru gam yn nes at weddnewid y cwricwlwm yng Nghymru am y tro cyntaf ers yr 1980au, wrth iddi ymgynghori ar ddeddfwriaeth newydd.

Roedd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, yn cyflwyno  Papur Gwyn sy’n gosod y seiliau cyfreithiol ar gyfer cwricwlwm sy’n cael ei lunio gan athrawon Cymru ar hyn o bryd.

I chwalu ffiniau pynciau traddodiadol a grymuso athrawon i alluogi iddynt fod yn fwy arloesol, byddent yn cyflwyno chwe Maes Dysgu a Phrofiad, sef y Dyniaethau; Iechyd a Lles; Gwyddoniaeth a Thechnoleg; Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu; Y Celfyddydau Mynegiannol a Mathemateg.

Bydd Cymraeg a Saesneg yn parhau yn statudol, felly hefyd Astudiaethau Crefyddol ac Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb. Ochr yn ochr â hyn bydd y cyfrifoldebau trawsgwricwlaidd, sef Llythrennedd, Rhifedd a Chymhwysedd Digidol yn statudol hyd at 16 oed.

Bydd cyfnodau allweddol yn cael eu dileu. Yn lle hynny, bydd Camau Cynnydd a fydd yn cyfateb yn fras â’r disgwyliadau ar gyfer dysgwyr 5, 8, 11, 14 ac 16 oed. Bydd hyn yn caniatáu i athrawon ddeall datblygiad pob dysgwr, gan ystyried ei allu, ei brofiadau, ei ddealltwriaeth a pha mor gyflym y mae’n dysgu.

Bydd y newidiadau’n sicrhau na fydd ysgolion yn cael eu cyfyngu gan y cwricwlwm: bydd gan athrawon y rhyddid i fod yn hyblyg wrth addysgu. Bydd ymarferwyr yn gallu defnyddio’u gwybodaeth arbenigol a’u proffesiynoldeb i greu a llunio gwersi heriol sy’n ehangu gorwelion a galluoedd dysgwyr.

Dywedodd Kirsty Williams:

“Prif ddiben y daith hon yw codi safonau – rydym am weld ein dysgwyr yn datblygu gwell sgiliau llythrennedd a rhifedd, rydym am iddynt fod yn ddysgwyr dwyieithog medrus sydd â sgiliau digidol da. Rydym am iddynt hefyd ddatblygu’n unigolion mentrus, creadigol  sy’n meddwl yn feirniadol.

“Rwy’n hollol glir bod rhaid inni symud i ffwrdd o gwricwlwm cul, gorlawn ac anhyblyg er mwyn codi safonau a sicrhau cyfleoedd ehangach. Rhaid inni rymuso ysgolion ac athrawon.

“Dyma gyfnod cyffrous i addysg yng Nghymru. Rydym wrthi’n datblygu cwricwlwm newydd sy’n sicrhau bod dysgwyr yn barod i wynebu heriau’r dyfodol, ond hefyd rydym yn datblygu cwricwlwm drwy gydweithio, yng ngwir ystyr y gair, gydag ysgolion a rhanddeiliaid.

“Gofynnaf felly i bawb drwy Gymru gyfrannu at y drafodaeth hon dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf. Mae’r Papur Gwyn hwn yn uchelgeisiol a phellgyrhaeddol. Does dim modd inni gyrraedd y safonau uchel hyn oni bai ein bod yn cynnal trafodaeth drylwyr am genhadaeth ein cenedl.”