Cyhoeddiad Newydd

 

Gwneud Defnydd Effeithiol o Grant Amddifadedd Disgyblion Blynyddoedd Cynnar

 

Canolfan Cymru er Cydraddoldeb mewn Addysg yn cyhoeddi adnodd newydd ar gyfer Ymarferwyr ac Arweinwyr Blynyddoedd Cynnar

 

 Mae adnodd newydd o’r enw, ‘Gwneud defnydd effeithiol o Grant Amddifadedd Disgyblion Blynyddoedd Cynnar: Adnodd i Arweinwyr ac Ymarferwyr’ yn cael ei gyhoeddi heddiw gan Ganolfan Cymru er Cydraddoldeb mewn Addysg.

Gyda’r nod o gynorthwyo Ymarferwyr ac Arweinwyr y Blynyddoedd Cynnar wrth ddefnyddio’r Grant Amddifadedd Disgyblion Blynyddoedd Cynnar (GADBC) yn effeithiol, mae’r adnodd yn tynnu ar dystiolaeth gan ymchwil, arolygu ac arfer proffesiynol yng Nghymru ac mewn gwledydd eraill ac yn cynnwys astudiaethau achos o arfer effeithiol. Mae’r cyhoeddiad hefyd yn cynnig gwybodaeth gefndirol (o gyhoeddiadau allweddol Llywodraeth Cymru a ffynonellau eraill); yn cynnig canllawiau ar y ffordd orau i dargedu defnydd o’r GADBC; yn defnyddio ymyriadau seiliedig ar dystiolaeth; yn archwilio cyfleoedd i weithio ar y cyd â Dechrau’n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf, a Chymunedau yn Gyntaf ac yn rhoi cyfeiriadau at adnoddau a chyhoeddiadau a nodir.

Meddai Dr Jane Waters, un o’r awduron:

“Fel y nodwyd yng nghyhoeddiad Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi Llywodraeth Cymru (2013): ‘Mae gan Addysg rôl sylfaenol i helpu codi pobl allan o dlodi ac i amddiffyn y rhai sydd mewn perygl o dlodi ac anfantais’. Mae’r cyhoeddiad hwn yn darparu cyngor, arweiniad ac enghreifftiau i weithwyr proffesiynol ac arweinwyr y Blynyddoedd Cynnar sy’n gyfrifol am y defnydd effeithiol o’r Grant Amddifadedd Disgyblion Blynyddoedd Cynnar (GADBC).

“Gan ymhelaethu ar yr hyn sydd eisoes yn bodoli, dyma ddogfen sy’n darparu sail resymegol hygyrch a thrylwyr sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer amrywiaeth o ymyriadau. Mae hefyd yn darparu llyfryddiaeth lawn sy’n caniatáu ymgysylltu ehangach â llenyddiaeth ymchwil. Dyma gyhoeddiad gwerthfawr yn yr ymdrech i ddatblygu’r mentrau a ariennir gan GADBC sydd â’r potensial i greu effaith sylweddol,” parha Dr Waters.

Bydd Canolfan Cymru er Cydraddoldeb mewn Addysg yn lansio’r cyhoeddiad yn ystod seminar a gynhelir dydd Iau, Medi’r 17eg, yn Ysgol Gynradd Blaenymaes, Abertawe.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r cyhoeddiad a’r seminar, ewch i www.uwtsd.ac.uk/cy/ccca/

I lawrlwytho’r cyhoeddiad neu i’w ddarllen yn llawn, cliciwch yma.