Y Grant Datblygu Disgyblion 2017-2018

Grant Datblygu Disgyblion – Plant Mewn Gofal.

Diddordeb mewn gwneud cais?

Pwrpas y Grant Datblygu Disgyblion yw cael effaith barhaol ar ganlyniadau addysg i blant sy’n derbyn gofal neu blant sydd wedi derbyn gofal yn ffurfiol.  Cyfrifoldeb GwE, fel y Consortia Addysg ar gyfer Gogledd Cymru yw gweinyddu a chydgysylltu’r grant ar draws ysgolion y rhanbarth.

Bydd GwE yn parhau i gydgysylltu’r gwaith drwy weithredu dull tebyg i’r flwyddyn ddiwethaf o ran:

  • Cynnig datblygiad proffesiynol ar lefel rhanbarthol – manylion cofrestru G6.
  • Cyfle i ysgolion wneud cais am bwrsariaeth dysgwyr unigol – ar y cyd gyda’r awdurdod lleol.
  • Cyfle i ysgolion fynychu cyfarfodydd lleol / rhwydweithiau o fewn awdurdodau lleol.
  • Ceisiadau Clwstwr/Ysgol i Ysgol – Mae’r canllawiau a’r ffurflen gais isod yn amlinellu y broses Grant Datblygu Disgyblion (GDD) ar gyfer plant sydd yn / wedi derbyn gofal ar draws y rhanbarth. Mae cyfle i chi fel ysgolion wneud cais am ymyraethau / darpariaeth ychwanegol o dan 5 pennawd allweddol. Ni ellir ei ddefnyddio i ariannu darpariaeth statudol. Bydd angen i chi hefyd sicrhau bod yr holl ffurflenni cais yn cael eu rhannu â Chydlynydd Addysg Plant sy’n Derbyn Gofal eich awdurdod lleol.

Dyddiad Cau – Gorffennaf 6ed, 12.00yp.

Bydd pob cais yn cael ei drafod mewn panel rhanbarthol cyn diwedd tymor ysgol.

Bydd angen anfon eich cais at sylw Catrin Meirion – catrinmeirion@gwegogledd.cymru

Am sgwrs pellach cysylltwch gyda Sharon Williams – Sharonwilliams@gwegogledd.cymru

Canllaw a Ffurflen Gais:

Canllawiau a Ffurflen Gais – Grant Datblygu Disgyblion – GwE
Ffurflen Gais i’w Lawrlwytho – Grant Datblygu Disgyblion – GwE