25 Medi 2017 – Datganiad i’r Wasg

‘CYDWEITHIO EFFEITHIOL AR GYFER GWELLIANT PARHAUS’

Bydd GwE yn cynnal Cynhadledd i Benaethiaid Cynradd ac aelodau Uwch Dimau Arwain yn Venue Cymru, Llandudno, Gogledd Cymru, ddydd Mawrth, 26 Medi, 2017.

Mae’r teitl ‘Cydweithio Effeithiol ar gyfer Gwelliant Parhaus’ yn un amserol iawn. Mae’n gosod y cyd destun i’n gweledigaeth mai trwy gydweithio, rhannu yr arfer orau a chyd ddatrys problemau y gallwn osod cyfeiriad a mynd i’r afael â’r dasg o sicrhau’r safonau o’r radd uchaf i bawb, boed yn ddisgyblion neu’n staff.

Ein dau siaradwr gwadd yw Chris Boardman MBE a Gervase Phinn. Y ddau yn arweinwyr blaenllaw, fe’u dewiswyd yn ofalus fel gwŷr gwadd i weld sut y gallwn ni, yn arweinwyr addysg, ddysgu o’u gallu hwy i arwain a chymell eraill. Bydd hefyd gyflwyniadau difyr a bydd gyfle i’r aelodau leisio barn a dylanwadu ar gyfeiriad Tîm GwE; a sut y gall arweinwyr ysgolion fanteisio ar eu harbenigedd i chwarae rhan allweddol yn y tîm hwnnw.

Yn ôl Rheolwr Gyfarwyddwr GwE, Arwyn Thomas:

“Mae amser cyffrous o’n blaenau yng nghanol cyfnod o newidiadau sylweddol a phellgyrhaeddol ym myd addysg. Mae’r gynhadledd yn rhan o’r daith honno o sicrhau bod holl ysgolion y Gogledd yn llwyddo, gyda’i gilydd, i fod yn ysgolion rhagorol.

Gobeithiaf y bydd y gynhadledd hon heddiw yn llwyfan i ni ddatblygu arni dros y flwyddyn sydd i ddod, drwy fforymau lleol a rhanbarthol, ac yn rhoi cyfleoedd i ni ddehongli a datblygu ar y cyd.” 

NODIADAU

GwE

GwE yw Gwasanaeth Gwella Ysgolion Gogledd Cymru sydd yn gweithio yn gwbl ddwyieithog ochr yn ochr â, ac ar ran Awdurdodau Lleol Conwy, Dinbych, Fflint, Gwynedd, Wrecsam ac Ynys Môn i ddatblygu ysgolion rhagorol ar hyd a lled y rhanbarth.

Yn ôl ein gweledigaeth, bydd gan GwE:
Ysgolion rhagorol sy’n cydweithio’n naturiol ac yn cyd-adnabod cyfeiriad ar gyfer gwelliant a fydd yn arwain at les a safonau rhagorol i’w disgyblion.

Chris Boardman MBE

Mae Chris Boardman yn llwyddiant yn gorfforol, ac yn dechnegol, yn y byd beicio. Yn bencampwr y Byd a’r Gemau Olympaidd, a sylfaenydd Boardman Bikes, mae Chris yn dysgu’r cylch corfforaethol beth sy’n debyg rhwng perfformiad ar ei orau yn y byd chwaraeon a’r byd busnes.

Yn y Gemau Olympaidd yn Barcelona yr enillodd Prydain ei medal aur gyntaf mewn beicio mewn 72 mlynedd. Wrth i Chris Boardman sefyll ar y podiwm, ni ddychmygai gymaint fyddai ei gamp yn ei olygu i feicio ym Mhrydain – y tîm a ganmolir fwyaf yn y byd bellach. Mae negeseuon Chris i fusnesau yn rhai gwerthfawr ac oesol – gwaith tîm, perfformiad ar lefel uchel, llwyddiant a chymhelliant.

Gyda sylw i’r gro mân, mae Chris yn canolbwyntio ar ddelio gydag ofnau a sut i ddefnyddio methiant, gan alw ar ei brofiad proffesiynol i helpu busnesau ddysgu bod angen dyfalbarhad ac angerdd. Ac yntau wedi gwisgo’r crys melyn clodfawr yn y Tour De France deirgwaith, enillodd Chris hefyd lawer o deitlau cenedlaethol cyn ei lwyddiant yn y Gemau Olympaidd yn 1992, ble cipiodd record y byd oddi ar ei gystadleuydd mawr, Graeme Obree o’r Alban.

Cafodd Chris wybod fod ganddo osteoporosis ac yntau’n 30 oed, ac fe’i gorfodwyd i gamu’n ôl o gyflawni ei lawn botensial. Mae o bellach yn newyddiadurwr o ddifri, ac wedi ysgrifennu darnau i amrywiol gyhoeddiadau, gan gynnwys cylchgrawn Pro Cycling a Diver.

Mae Chris hefyd yn byndit ar ITV a’r BBC, yn rhoi sylw i’r prif ddigwyddiadau beicio. Mae o’n eistedd ar y Bwrdd Strategaeth Beicio Cenedlaethol.

Gyda chymaint o ben busnes â nerth athletaidd, mae Chris hefyd yn entrepreneur.

Bu iddo gyd-sefydlu Boardman Bikes, un o’r brandiau o feiciau sy’n datblygu gyflymaf ym Mhrydain.

Bydd Chris yn dysgu’r byd busnes a’r byd chwaraeon sut i lwyddo, drwy gyfrwng ei sgiliau, ei fentergarwch a’i drylwyredd.

Gervase Phinn

Bu Gervase Phinn yn athro mewn ystod o ysgolion am bedair blynedd ar ddeg cyn iddo droi ei law at fod yn ymgynghorydd addysg ac yn arolygydd ysgolion. Bellach, mae’n ddarlithydd, darlledwr ac ysgrifennwr llawrydd, ac yn ymgynghorydd i’r Brifysgol Agored, yn Gymrawd Anrhydeddus Coleg St. John’s, Efrog , ac yn Gymrawd ac Athro Gwadd mewn Addysg ym Mhrifysgol Teeside.

Mae o wedi cyhoeddi llawer o erthyglau, penodau a llyfrau, ac wedi golygu ystod eang o gasgliadau barddoniaeth a straeon byrion. Ymhlith ei destunau academaidd mae: Young Readers and their Books, a gyhoeddwyd gan David Fulton, Touches of Beauty: Poetry in the Primary School a Reading Matters. Ar ben hynny, cyhoeddodd gasgliadau o’i ddramâu, ei farddoniaeth, ei lyfrau lluniau a’i straeon byrion ei hun, gan gynnwys ei flodeugerddi o farddoniaeth: Classroom Creatures, It Takes One to Know One, The Day Our Teacher Went Batty a Family Phantoms. Cyhoeddwyd ei lyfrau stori i blant, What’s the Matter, Royston Knapper? a Royston Knapper: The Return of the Rogue gan Child’s Play a buont yn werthwyr gorau. Gwelwyd ei lyfr lluniau, Our Cat Cuddles yn gynharach eleni.

Mae’n debyg mai am ei ysgrifennu hunangofiannol llwyddiannus y gwyddom orau am Gervase Phinn: The Other Side of the Dale, Over Hill and Dale a Head Over Heels in the Dales, a gyhoeddwyd gan Michael Joseph, ac a ddarllenodd ar raglen ‘Llyfr yr Wythnos’ Radio 4. Bu Head Over Heels in the Dales yn llyfr a werthodd orau un. Cyhoeddwyd y pedwerydd llyfr yn y gyfres, Up and Down in the Dales, ym mis Mawrth 2004.

Yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau, ac yn Gymrawd Anrhydeddus yr English Speaking Board, mae ganddo ddiddordeb neilltuol mewn darllen plant, ac mae’n siaradwr bywiog a difyr ym marn llawer.

Gwahoddir newyddiadurwyr ac/neu ffotograffwyr i ddod i’r gynhadledd. Cysylltwch â Susan Owen Jones, Rheolwr Busnes GwE ymlaen llaw ar 07557759757, neu ar e-bost susanowenjones@GwEGogledd.Cymru