Cynnig Proffesiynol GwE
Digwyddiadau Cynnig GwE
Ewch ar G6 i gofrestru.
30/06/2021 – 09/07/2021 |
Dyddiad |
Cyfrwng |
Datblygu Gweledigaeth a Rennir & Cynllunio ar gyfer Newid Cwricwlwm, Sesiynau 2 & 3 (Caergybi, Bodedern, Syr Thomas Jones) | 30/06/2021 | Cymraeg |
Datblygu Gweledigaeth a Rennir & Cynllunio ar gyfer Newid Cwricwlwm, Sesiynau 2 & 3 (Syr Hugh Owen, D. Nantlle) | 30/06/2021 | Cymraeg |
Datblygu Gweledigaeth a Rennir & Cynllunio ar gyfer Newid Cwricwlwm, Sesiynau 2 & 3 (Bryn Alyn, Clywedog, Rhosnesni) | 30/06/2021 | Saesneg |
Datblygu Gweledigaeth a Rennir & Cynllunio ar gyfer Newid Cwricwlwm, Sesiynau 2 & 3 (Rhyl, Prestatyn, Tir Morfa) | 30/06/2021 | Saesneg |
Datblygu Gweledigaeth a Rennir & Cynllunio ar gyfer Newid Cwricwlwm, Sesiynau 2 & 3 (Emrys ap Iwan, John Bright, Denbigh High, Plas Brondyffryn) | 30/06/2021 | Saesneg |
Datblygu Gweledigaeth a Rennir & Cynllunio ar gyfer Newid Cwricwlwm, Sesiynau 2 & 3 (Tywyn, Bro Idris, Moelwyn, Berwyn, Ardudwy) | 01/07/2021 | Cymraeg |
Datblygu Gweledigaeth a Rennir & Cynllunio ar gyfer Newid Cwricwlwm, Sesiynau 2 & 3 (Glan y Mor, Botwnnog, Eifionydd, Hafod Lon) | 01/07/2021 | Cymraeg |
Datblygu Gweledigaeth a Rennir & Cynllunio ar gyfer Newid Cwricwlwm, Sesiynau 2 & 3 (Castell Alun, Connah’s Quay, Elfed, Argoed) | 01/07/2021 | Saesneg |
Datblygu Gweledigaeth a Rennir & Cynllunio ar gyfer Newid Cwricwlwm, Sesiynau 2 & 3 (Ruabon, Grango, Darland) | 01/07/2021 | Saesneg |
Datblygu Gweledigaeth a Rennir & Cynllunio ar gyfer Newid Cwricwlwm, Sesiynau 2 & 3 (St David’s, Holywell, St Richard Gwyn) | 01/07/2021 | Saesneg |
Datblygu Gweledigaeth a Rennir & Cynllunio ar gyfer Newid Cwricwlwm, Sesiynau 2 & 3 (Brynhyfryd, Dinas Bran & Ceiriog) | 01/07/2021 | Dwyieithog |
Datblygu Deilliannau Effeithiol a Defnyddio’r Dilyniant Cymorth (Cohort 8) | 01/07/2021 | Saesneg |
Datblygu Deilliannau Effeithiol a Defnyddio’r Dilyniant Cymorth (Cohort 8) | 01/07/2021 | Saesneg |
Datblygu Deilliannau Effeithiol a Defnyddio’r Dilyniant Cymorth (Cohort 8) | 06/07/2021 | Saesneg |
Datblygu Deilliannau Effeithiol a Defnyddio’r Dilyniant Cymorth (Cohort 8) | 08/07/2021 | Saesneg |
Datblygu Deilliannau Effeithiol a Defnyddio’r Dilyniant Cymorth (Cohort 8) | 08/07/2021 | Saesneg |
Nurture International: Mynediad at ddysgu i bawb | 08/07/2021 | Ddwyieithog |
Cynnig Proffesiynol GwE
Mae cynnig proffesiynol GwE eleni wedi ei resymoli ac yn canolbwyntio ar 5 prif faes sef Lles, Y Daith Ddiwygio, Datblygu’r Gweithlu, Cyflymu’r Dysgu a Dysgu Digidol. Mae’n parhau i gynnig cyfleoedd dysgu proffesiynol i holl staff yr ysgol, o gymorthyddion dysgu sydd eisiau cymhwyster Cynorthwywyr Addysg Lefel Uwch i raglen ddatblygol ar gyfer penaethiaid strategol. Mae’r cynnig bellach wedi ei addasu fel ein bod yn gallu ei gynnig yn rhithiol mewn sesiynau byw, cyflwyniadau mewn webinarau a hefyd recordiad o sesiynau byw. Mae hyn yn sicrhau’r hyblygrwydd i chi fel ymarferwyr allu troi at y Dysgu Proffesiynol ar amser sydd yn eich gweddu chi a’r ysgol.
Yn ogystal, bydd y cynnig yn ymateb yn benodol i anghenion penodol clystyrau ac ysgolion sy’n cydweithio. Yn dilyn trafodaeth efo’r Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant bydd yn bosib i’r clwstwr adnabod Rhaglen Ddysgu Broffesiynol hyblyg sydd yn ymateb yn unigryw i anghenion y dalgylch. Rhydd hyn gyfle euraidd i’r dalgylchoedd ddatblygu Cwricwlwm sydd yn lleol a hefyd cryfhau’r agwedd o fod yn ysgolion sydd yn hunan wella trwy gydweithio effeithiol. Mae hyn oll yn sicrhau fod yr hyfforddiant yn cael ei gynnig ar sail egwyddorion ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu.
Mae cynnig proffesiynol GwE wedi’i gynllunio i ymateb i ddatblygu unigolion ar lawr y dosbarth, ymateb i agweddau ysgol gyfan, cefnogi clystyrau o ysgolion ac ymateb i anghenion Awdurdodau Lleol. Mae’r ddarpariaeth yn seiliedig ar adnabyddiaeth gadarn yr Ymgynghorwyr Cefnogi Gwelliant o’u hysgolion unigol, ar anghenion clystyrau penodol ac ar ddyheadau’r Awdurdodau Lleol a blaenoriaethau cenedlaethol.
Mae egwyddorion Cwricwlwm i Gymru wedi’u gwreiddio yn yr holl hyfforddiant ac mae 4 diben y cwricwlwm yn flaenllaw ym meddyliau’r cyflwynwyr wrth iddynt fynd ati i gynllunio hyfforddiant perthnasol, cyfredol a chyffrous.
Fel rhan o gynnig dysgu proffesiynol GwE ar draws yr agenda trawsnewid addysgol, byddwn yn parhau i weithredu’n integredig er mwyn plethu’r agweddau hyn gyda’i gilydd. Byddwn hefyd yn parhau i gefnogi a datblygu ymhellach y gwaith cydweithio ar draws clystyrau trwy edrych ar y continwwm 3-16. Trwy weithio’n agos ag arweinwyr, byddwn yn adnabod adnoddau a meysydd dysgu proffesiynol i gynnwys y 12 Egwyddor Addysgegol o fewn y cyd-destun ehangach o ddysgu ac addysgu, asesu, a dylunio a chynllunio’r cwricwlwm ar lefel ysgol.
Cliciwch yma i lawr lwytho copi o’r llawlyfr.