“Arhoswch yn ddiogel, byddwch yn ddiogel”
“Arhoswch yn ddiogel, byddwch yn ddiogel”: deall eich cyfrifoldebau proffesiynol
Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), yr awdurdod rheoli ar gyfer 7 grŵp sy’n ymwneud ag addysg a hyfforddiant yng Nghymru, wedi delio gyda dros 2,000 o achosion lle mae Priodoldeb ymarferydd i Ymarfer wedi’i gwestiynu.
Bydd y sesiwn anghenrheidiol hon ar gyfer ymarferwyr a’r rhai sydd â chyfrifoldeb am staff yn eich cynorthwyo i gadw eich priodoldeb i ymarfer trwy:
- ddod i ddeall Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol y CGA
- trafod enghreifftiau o achosion go iawn ar bynciau megis perthnasau amhriodol, cyfrynghau cymdeithasol, atal dysgwyr a lladrad o’r ysgol
- archwilio pa ymddygiad sy’n briodol y tu allan i’r ysgo, gan ddefnyddio enghreifftiau o achosion go iawn lle mae ymarferwyr wedi mynd yn erbyn safonau’r CGA
- manylu ar pam na chaiff rhai ymarferwyr gofrestru gyda’r CGA
- cyflwyno canllawiau poblogaidd y CGA ar arfer dda mewn meysydd megis defnydd priodol o’r cyfryngau cymdeithasol, cynnal profion, asesu, arholiadau a goruchwyliaeth