Arolwg Gwybodaeth Ysgolion gan Adeiladwyr Kier

Mae Alan Waldron yn ymchwilydd gyda Chanolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC) ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS). Mae’n gofyn yn garedig a fyddai modd i chi ymateb i holiadur byr ar ran grŵp Kier.

Dros y 3 blynedd nesaf, bydd Kier yn cyflwyno menter dros Gymru gyfan yn rhoi cyfleoedd i ddysgu trwy brofiad a chodi dyheadau dysgwyr i ystyried dilyn un o’r 2,000 o gyfleoedd gwahanol am yrfa. Gall ysgolion gael cyngor AM DDIM, gweithgareddau STEM a dod i gysylltiad â Chenhadon Adeiladu o’r diwydiant er mwyn ysbrydoli a chyfoethogi profiadau dysgu ‘byd gwaith’ a rhoi cyngor gyrfaol.

Gan ddefnyddio dull ‘o’r gwaelod i fyny’, ymgynghorir ag ysgolion er mwyn llunio’r rhaglen a sicrhau ei bod yn bodloni’r deilliannau a’r fframweithiau allweddol. Er mwyn deall yr hyn sydd ar gael ar hyn o bryd, a sut y gellir cyfoethogi’r ddarpariaeth, gofynnir yn garedig i chi gwblhau’r arolwg byr drwy ddilyn y ddolen hon.

Am ragor o wybodaeth am y rhaglen, cysylltwch â Jess Morgan, Cydlynydd Ymgysylltu Cymunedau ar 07925 639 251 neu jess.morgan@kier.co.uk.