Awst 2018: Canlyniadau TGAU

[Darpar-ganlyniadau ‘ar y diwrnod’]

Hoffai GwE longyfarch dysgwyr am eu cyrhaeddiad yn arholiadau TGAU eleni. Rydym yn falch iawn bod holl waith caled staff a dysgwyr wedi talu’n ôl.

Mae Cymru wrthi’n profi cyfnod o newidiadau yn nefnydd mesuriadau perfformiad o fewn y system atebolrwydd. Un agwedd o’r newid hwn yw’r ffordd yr ydym yn adrodd ar ddeilliannau rhanbarthol a lleol. Mae GwE eisoes yn gweithio’n agos ag ysgolion i dracio perfformiad dysgwyr unigol dros amser, a fydd yn golygu bod arweinwyr ysgol a’n hawdurdodau lleol mewn sefyllfa dda i fesur ble mae ysgolion yn gwneud cynnydd da a ble y gall fod angen cefnogaeth bellach arnynt.

Fel yn y gorffennol rydym wedi siarad gyda darparwyr addysg ôl-16 i sicrhau nad yw’r un dysgwr o dan anfantais a bod llwybrau priodol yn cael eu cynnig iddynt yn dilyn derbyn eu canlyniadau.

Nododd Karen Evans, Cyfarwyddwr Arweiniol GwE:
“Dymunaf longyfarch ein pobl ifanc am eu gwaith caled a’u llwyddiant. Mae’r canlyniadau yn dyst i ymroddiad y dysgwyr.

Hoffwn ddiolch i’r athrawon, penaethiaid, llywodraethwyr a staff cymorth yr ysgolion am eu gwaith caled a’u proffesiynoldeb, y dysgwyr am eu hymdrechion a’r rhieni am eu cefnogaeth gyson.”

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Thomas, Cadeirydd Cydbwyllgor GwE:
“Mae’r dysgwyr i’w llongyfarch yn fawr. Rydym yn awyddus i weld pob un o’n pobl ifanc yn llwyddo. Hoffwn ddiolch i’r ysgolion am eu gwaith caled a chyson trwy gydol y flwyddyn.

“Hoffwn ddymuno’r gorau i’n pobl ifanc wrth iddynt wneud dewisiadau ar gyfer y camau nesaf yn eu gyrfaoedd.”