Codi Ymwybyddiaeth o CaBan

CaBan yw ymateb y rhanbarth i ‘Addysgu Athrawon Yfory: Opsiynau ar gyfer Dyfodol Addysg Gychwynnol Athrawon yng Nghymru ‘ (2015).  Ei nod yw cydweithio ag ysgolion rhanbarthol a GwE i:

  • gryfhau’r ddarpariaeth addysg gychwynnol i athrawon (AGA)
  • datblygu gweithlu cynyddol broffesiynol

Mae’n bartneriaeth rhwng pum partner cyfartal: amrywiaeth eang o ysgolion arweiniol a rhwydwaith; Prifysgol Bangor, Prifysgol Caer; GwE a CIEREI. Mae’r bartneriaeth wedi’i hachredu’n llwyddiannus gan CGA i gynnig:

  • TAR Cynradd
  • TAR Uwchradd
  • BA Cynradd

https://youtu.be/b9gOnRglUyI

Mae gwaith CaBan yn rhan annatod o’r daith diwygio addysg a amlinellir yn ‘Addysg yng Nghymru: Ein Cenhadaeth Genedlaethol ‘. Bydd yn rhoi cyfleoedd i ysgolion partner:

  • gymryd rôl arweiniol yn y gwaith o ddatblygu gweithlu cynyddol broffesiynol
  • cefnogi gwella ysgolion drwy weithio ar y cyd a datblygu Ysgolion fel Sefydliadau Dysgu
  • datblygu gallu ymchwil a chefnogi datblygu addysgeg o fewn yr ysgol trwy gysylltiadau â sefydliadau addysg uwch
  • dyfnhau dealltwriaeth o’r Safonau Proffesiynol Newydd ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth
  • datblygu a chryfhau ymhellach sgiliau mentora a hyfforddi

 

Ffurflen CaBan