Cwricwlwm i Gymru

Mae cwricwlwm ysgol newydd yn gofyn am ddiwylliant dysgu newydd.

Mae’n dechrau yma.

Mae creu diwylliant dysgu ffyniannus mewn ysgolion ar draws Cymru yn hanfodol er mwyn cyflwyno ein cwricwlwm newydd yn llwyddiannus. Mae grŵp o ysgolion, gyda chefnogaeth yr OECD, wedi bod wrthi’n datblygu model i gyflawni hyn.

Cynlluniwyd y model ‘Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu’ er mwyn helpu ysgolion i addasu i newid drwy weithio gydag ysgolion eraill a chonsortia i archwilio ffyrdd newydd o wella dysgu a deilliannau ar gyfer dysgwyr. Mae nodi anghenion dysgu proffesiynol athrawon a chydweithio i ddarparu atebion fel rhan o system hunanwella yn rhan hanfodol o’r dull gweithredu hwn.

Y man cychwyn ar gyfer ysgolion yw hunanwerthuso yn erbyn saith dimensiwn o arfer da a defnyddio’r canlyniadau i gynllunio gwelliannau a datblygiadau. Mae pob dimensiwn wedi’i gysylltu â’r pedwar diben, a llesiant yn ganolog iddynt i gyd.

Mae’r model yn darparu cyfarwyddyd ymarferol ar sut all staff ysgol ddysgu’n unigol a gyda’i gilydd wrth i ysgolion ddatblygu’n sefydliadau sy’n dysgu.

O’r tymor hwn ymlaen, bydd y consortia rhanbarthol a’r ysgolion a nodwyd fel y rhai cyntaf i weithredu’r model yn mynd ati i godi ymwybyddiaeth ohono o fewn y rhwydwaith ysgolion ehangach.

Bydd ysgolion yn cael eu hannog i ddechrau archwilio’r dimensiynau er mwyn eu helpu i ddeall y cwricwlwm newydd a’i gyflwyno o fewn yr ysgol a thu hwnt.

Dyma saith dimensiwn y model:

  • datblygu a rhannu gweledigaeth sy’n canolbwyntio ar ddysgu pob myfyriwr;
  • creu a chefnogi cyfleoedd dysgu parhaus i bob aelod o staff;
  • hybu dysgu fel tîm a chydweithio ymhlith yr holl staff;
  • sefydlu diwylliant o ymchwilio, arloesi ac archwilio;
  • sefydlu systemau ar gyfer casglu a chyfnewid gwybodaeth at ddibenion dysgu;
  • dysgu drwy’r amgylchedd allanol a’r system ddysgu ehangach;
  • modelu a meithrin arweinyddiaeth ddysgu.

Gellir gweld y model llawn yma.

Bydd y model ‘Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu’ yn gysylltiedig ag ymrwymiad cenedlaethol Llywodraeth Cymru i ddysgu proffesiynol parhaus, a adlewyrchir yn y safonau proffesiynol newydd ar gyfer addysgu a dysgu, a bydd yn ategu’r fframwaith asesu a gwerthuso newydd.

O fis Medi 2017, mae trefniadau arolygu newydd Estyn yn ystyried i ba raddau y mae arweinwyr wedi creu diwylliant ac ethos i gefnogi dysgu proffesiynol pob aelod o staff. Bydd y model hunanwerthuso yn helpu ysgolion i werthuso eu cynnydd o ran datblygu fel sefydliad sy’n dysgu.

Caiff y model ei lansio’n ffurfiol yn nhymor yr haf 2018 a bydd yr achlysur yn gyfle i ddangos enghreifftiau o arferion da ar draws Cymru.