Cyflwyno Asesiadau Personol

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno asesiadau personol newydd ar-lein o’r flwyddyn academaidd nesaf (2018/19). Gan ddechrau gyda rhifedd (gweithdrefnol) ar-lein, bydd yr asesiadau hyn yn disodli’r profion cenedlaethol papur fel a ganlyn:

BLWYDDYN
ACADEMAIDD
RHIFEDD
(GWEITHDREFNOL)
DARLLEN
(CYMRAEG A SAESNEG)
RHFIEDD
(RHESYMU)
2018/19 AR-LEIN papur papur
2019/20 AR-LEIN AR-LEIN papur
2020/21 AR-LEIN AR-LEIN AR-LEIN

Mae’r asesiadau personol yn seiliedig ar y sgiliau yn y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol a byddant yn darparu gwybodaeth am sgiliau darllen a rhifedd dysgwyr unigol a dosbarthiadau cyfan. Mae’r asesiadau’n rhai diagnostig – y diben yw deall sgiliau dysgwyr er mwyn i athrawon allu defnyddio’r wybodaeth honno i gynllunio’r camau nesaf o ran addysgu a dysgu.

Bydd yr asesiadau hyn yn rhai ‘addasol’, sy’n golygu y caiff y cwestiynau eu dewis yn seiliedig ar ymateb dysgwr i’r cwestiwn blaenorol. Mae hyn yn rhoi profiad asesu unigol sy’n addasu lefel yr her ar gyfer pob dysgwr. Ymhlith y buddiannau eraill mae adborth cyflymach ar gyfer ysgolion, marcio awtomatig, a’r hyblygrwydd i ysgolion ac athrawon allu trefnu’r asesiadau ar yr adegau mwyaf buddiol er mwyn llywio addysgu a dysgu.

Bydd yn ofyniad statudol i bob ysgol a gynhelir yng Nghymru sicrhau bod dysgwyr ym mlynyddoedd 2-9 yn sefyll yr asesiadau unwaith yn ystod y flwyddyn academaidd. Mewn ymateb i adborth gan ymarferwyr sy’n ymwneud â’r gwaith o gynllunio a datblygu’r asesiadau, bydd ysgolion yn gallu eu defnyddio at ddiben arall hefyd os hoffent wneud hynny.

Yn ystod y cyfnod pontio, bydd dysgwyr yn sefyll y profion papur sy’n weddill yn ystod cyfnod profion yn yr haf. Ysgolion fydd yn dewis pryd y caiff yr asesiadau personol eu cynnal.

Bydd yr asesiadau yn cyd-fynd â thechnolegau cynorthwyol safonol, a bydd fersiynau wedi’u haddasu o’r asesiadau ar gael.

Bydd dysgwyr yn defnyddio’u cyfrifon defnyddwyr ar Hwb, llwyfan dysgu Llywodraeth Cymru, i gael mynediad at yr asesiadau. Bydd ysgolion yn gallu trefnu a goruchwylio’r asesiadau, a lawrlwytho adroddiadau ar ddysgwyr unigol a dosbarthiadau, drwy wefan ddynodedig y gellir ei chyrchu drwy fewngofnodi i Hwb. Bydd angen i bob defnyddiwr – boed yn aelod o staff neu’n ddysgwr – ddefnyddio ei fanylion mewngofnodi ar gyfer Hwb.

I sicrhau bod pob aelod o staff a phob dysgwr yn gallu cael mynediad i’r system ar-lein, mae’n hanfodol:

  1. y caiff System Gwybodaeth Reoli eich ysgol ei diweddau cyn ichi drefnu’r asesiadau, ac yn rheolaidd wedi hynny;
  2. y trefnir bod y cleient dull darparu yn rhedeg yn rheolaidd.

Drwy wneud y ddau beth uchod, byddwch yn sicrhau bod gwybodaeth gywir a diweddar am eich dysgwyr a’ch staff ar gael ar y system asesu ar-lein newydd.

Nid oes angen i ysgolion gael nifer fawr o gyfrifiaduron na dyfeisiau eraill. Bydd dysgwyr yn gallu sefyll yr asesiadau un ar y tro, mewn grwpiau bach neu mewn dosbarthiadau, yn ôl dewis yr athro a chyfleusterau’r ysgol.

Mae’r asesiadau wedi’u dylunio i gael eu defnyddio ar y dyfeisiau canlynol gyda porwr modern:

  • Cyfrifiaduron pen desg
  • Gliniaduron, gan gynnwys Chromebooks
  • Llechi – gan gynnwys iPads

Bydd angen un o’r porwyr canlynol arnoch (dyma’r gofynion sylfaenol o ran porwyr):

  • Internet Explorer 11
  • Mozilla Firefox: 55
  • Google Chrome: 59
  • Safari: 10

Er mwyn sicrhau y gallwch wneud y defnydd gorau o’ch technoleg ddigidol wrth baratoi ar gyfer asesiadau ar-lein, efallai yr hoffech gyfeirio at Ganllawiau Digidol Addysg Llywodraeth Cymru ar Dysgu Cymru. Mae gofynion TGCh ar gyfer yr asesiadau (e.e. lled band) wedi’u cynnwys yn ein Cwestiynau cyffredin a’n Canllawiau TG ar asesiadau personol ar Dysgu Cymru.

Rydym yn diweddaru ein llawlyfr gweinyddu i gynnwys canllawiau ar gyfer gweinyddu asesiadau personol. Caiff y canllawiau hyn eu cyhoeddi ar wefan Dysgu Cymru a rhown wybod i chi drwy Dysg pan fyddant yn mynd yn fyw.

Bwriedir i’r asesiadau fod yn hawdd eu defnyddio. Bydd samplau ar gael i ddysgwyr er mwyn iddynt allu ymgyfarwyddo â’r mathau o gwestiynau cyn sefyll yr asesiadau. Bydd cymorth ar gael i ysgolion drwy diwtorialau ar-lein a desg gymorth wedi’i rheoli yn ystod oriau ysgol a fydd yn darparu gwasanaeth dwyieithog.

Am ragor o wybodaeth, cyfeiriwch at y Cwestiynau cyffredin a gaiff eu diweddaru’n rheolaidd ar Dysgu Cymru. Byddwn hefyd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf drwy gylchlythyr Dysg.

Mae’r asesiadau yn cael eu datblygu gan gonsortiwm o bartneriaid dan arweiniad AlphaPlus Consultancy, ac mae ymarferwyr ledled Cymru yn ymwneud â’r broses ddatblygu, yn rhoi adborth a chyngor, yn adolygu cynnwys yr asesiadau ac yn eu treialu yn yr ystafell ddosbarth. Gall eich ysgol gael profiad uniongyrchol o’r asesiadau newydd hyn drwy gymryd rhan mewn treialon. Os hoffech i’ch ysgol gymryd rhan yn y treialon, cysylltwch â trials@nationaltests.cymru. Os hoffech gymryd rhan mewn paneli athrawon i adolygu cynnwys yr asesiadau, cysylltwch â NRNT@gov.wales