Cynhadledd i Arweinwyr Chweched Dosbarth

CYNHADLEDD I ARWEINWYR CHWECHED DOSBARTH

Dydd Iau, 22 Mawrth 2018 – 09:15-15:30 – Canolfan Fusnes a Chynadleddau Glasdir, Llanrwst

Mae GwE yn cynnal cynhadledd wedi’i hanelu at arweinwyr ac uwch arweinwyr chweched dosbarth sy’n gyfrifol am godi safonau ym Mlynyddoedd 12 a 13. Nod y gynhadledd yw canolbwyntio ar y ffordd y mae anelu’n uchel a safon y ddarpariaeth yn cyfrannu at well perfformiad.

Y Prif Siaradwyr:

  • Tracey Greenaway-Jones, Prifathro Cynorthwyol Ansawdd a Safonau, Coleg Chweched Dosbarth Xaverian, Manceinion, a fydd yn canolbwyntio ar ei phrofiad o godi safonau a gwella ansawdd.
  • Catherine Evans a Tony Sparks, ESTYN a fydd yn agor sesiwn y prynhawn gyda’r sgwrs ‘Ôl-16 o fewn y Fframwaith Arolygu’.
  • Bethan Milton, Yr Uned Safonau a fydd yn rhoi’r manylion diweddaraf am fesurau perfformiad.

Bydd y gweithdai’n cynnwys:

  • Creu Ethos o Ddysgu Annibynnol
  • Disgwyliadau Uchel: Strategaethau Tracio, Monitro ac Ymyrraeth i Wella Cadwraeth
  • Ymgysylltiad â Rhieni, Gofal, Cefnogaeth a Phresenoldeb
  • ESTYN – profiad un ysgol o ôl-16 mewn arolwg llawn a thematig
  • Bagloriaeth Cymru: manteision astudio’r Fagloriaeth a hybu Bagloriaeth Cymru gydag Addysg Uwch
  • Sut mae Cyn-fyfyrwyr yn dylanwadu ar lwybrau gyrfaol
  • Cyfoethogi ac Ehangu Gorwelion
  • Troi graddau A / A* TGAU yn raddau A / A* mewn Lefel A

Os oes gennych unrhyw ofynion dietegol, anfonwch ebost at christine.wynne@conwy.gov.uk

I gofrestru, cliciwch yma.