Darpariaeth Datblygu Arweinyddiaeth ar gyfer Penaethiaid Profiadol
Mae’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol (Academi Arweinyddiaeth) yn ymroddedig i sicrhau bod Cymru’n lle gwych i fod yn arweinydd addysg, ac y byddwn yn darparu ein huchelgais beiddgar ar gyfer dysgwyr drwy arweinyddiaeth o ansawdd da yn ein holl ysgolion a lleoliadau addysgol. Craidd y weledigaeth hon yw ymrwymiad i sicrhau fod gan bob arweinydd yn y system addysg fynediad i gyfleoedd cydlynol a hygyrch datblygu arweinyddiaeth o’r radd flaenaf sy’n cwrdd â’u hanghenion lle bynnag y maen nhw, a lle bynnag y maen nhw ar eu llwybr gyrfa a’u huchelgais.
Ni fydd Academi Arweinyddiaeth yn uniongyrchol gyfrifol am gyflwyno unrhyw ddarpariaeth datblygu arweinyddiaeth, yn hytrach, defnyddio darpariaeth effeithiol sydd eisoes ar waith a cheisio ei chymeradwyo
Mae’r Academi Arweinyddiaeth yn gwahodd darparwyr i gyflwyno darpariaeth datblygu arweinyddiaeth bresennol yn unrhyw un o’r meysydd canlynol i’w hystyried ar gyfer cymeradwyaeth:
- Arweinwyr Canol, yn enwedig eu rôl wrth ddatblygu unrhyw agwedd o’r cwricwlwm newydd i Gymru
- Darpar Penaethiaid
- Penaethiaid Newydd a Dros Dro
- Penaethiaid profiadol
Mae’r Academi Arweinyddiaeth hefyd yn ceisio diddordeb gan ddarparwyr sy’n greadigol ac yn arloesol yn eu dulliau o ddatblygu arweinyddiaeth addysgol. Bydd yr Academi Arweinyddiaeth yn ystyried cefnogi darparwyr yn ariannol wrth ddatblygu darpariaeth sy’n ‘newydd ’ac felly efallai na fydd yn gallu dangos effaith yn llawn eto.
Mae’r ffurflen gais, ynghyd â chanllaw i cymeradwyo ac arloesi, ar gael ar http://nael.cymru/cy/proses-cymeradwyo/
Cysylltwch ag post@agaa.cymru am unrhyw ymholiadau pellach.