Datganiad Categoreiddio Ysgolion Cenedlaethol 2019

“Mae ysgolion a chlystyrau yn parhau i ddatblygu eu gallu i hunan wella ac maent yn dod yn fwy gwydn. Mae’n bwysig bod pawb yn cydweithio er mwyn sicrhau y caiff ysgolion a lleoliadau y gefnogaeth orau bosib i’w galluogi i wireddu’r cwricwlwm newydd a’r agenda ddiwygio. Gyda’n partneriaid, byddwn yn darparu ac yn broceru cefnogaeth bwrpasol i bob ysgol a lleoliad, yn gweithio i gefnogi meysydd ar gyfer gwelliant y cytunwyd arnynt a rhannu arfer orau yn ein rhanbarth a’r tu hwnt.”

Anfonwyd ar ran y Consortia

Arwyn Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr, GwE

Debbie Harteveld, Rheolwr Gyfarwyddwr, EAS

Geraint Rees, Rheolwr Gyfarwyddwr Interim, ERW

Louise Blatchford Rheolwr Gyfarwyddwr Interim, CSC

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am eich ysgol leol a’r system Categoreiddio Ysgolion yma http://mylocalschool.wales.gov.uk/?lang=cy

Dyma ymateb y Cynghorydd Gareth Thomas, Cadeirydd GwE, Consortiwm Gwella Ysgolion Gogledd Cymru:

‘Mae GwE, y chwe Awdurdod Lleol ac ysgolion yng Ngogledd Cymru yn gweithio’n gynhyrchiol ac effeithiol iawn hefo’u gilydd i gefnogi dysgwyr. Caiff hyn ei ategu’n rheolaidd gan ganfyddiadau arolygu cadarnhaol Estyn mewn ysgolion, awdurdodau a’r Consortiwm. Rydym yn falch iawn o nodi bod y broses gategoreiddio ysgolion eleni unwaith eto yn tystio i welliannau. Mae ysgolion a chlystyrau yn parhau i ddatblygu eu cynhwysedd a’u gallu i hunan-wella ac maent yn dod yn fwy gwydn. Mae’n bwysig bod holl weithwyr proffesiynol ym myd addysg yn cyd-weithio i sicrhau bod ysgolion a lleoliadau yn derbyn y gefnogaeth orau bosibl i wireddu’r cwricwlwm newydd a’r agenda ddiwygio. Gyda’n partneriaid byddwn yn darparu ac yn brocera cefnogaeth wedi’i theilwra ar gyfer pob ysgol a lleoliad ac yn gweithio i gefnogi meysydd a gytunwyd ar gyfer gwella yn ogystal â rhannu arferion da o fewn y rhanbarth a thu hwnt.

Caiff GwE ei ddal yn atebol am ei weithredu a’i ddefnydd o gyllid gan yr awdurdodau lleol a’r ysgolion. Nid yw GwE yn cydnabod y materion, y ffynhonnell na maint y ffigyrau a ddyfynnir gan yr undebau addysgu. ‘

Yn genedlaethol, ers 2014, mae’r ganran o ysgolion sydd wedi eu categoreiddio’n goch wedi gostwng o 5.2% i 3.2% yn 2018. Yn yr un cyfnod mae’r nifer o ysgolion melyngoch wedi gostwng o 28.9% i 11% a’r ganran o ysgolion gwyrdd wedi cynyddu o 15.5% i 41.7%. Caiff y patrwm gwelliant ei adlewyrchu yn ranbarthol hefyd. Mae hyn yn dystiolaeth glir i’r berthynas waith gadarnhaol iawn sy’n bodoli rhwng GwE, y chwe awdurdod lleol a’r ysgolion. Mae hefyd yn dystiolaeth bellach i broffesiynoldeb staff mewn ysgolion, Awdurdodau Lleol a’r Consortia.

Bydd GwE yn tystio trwy eu prosesau atebolrwydd lleol i Aelodau Etholedig, ac ysgolion, bod y datganiad gan yr undebau addysg yn anghywir.