Dweud Eich Dweud – Holiadur Arholiadau Haf 2018

Cyfle i ddweud eich dweud ar arholiadau’r haf!

Fel yn y blynyddoedd blaenorol, mae Cymwysterau Cymru’n gwahodd dysgwyr, athrawon, darlithwyr ac unrhyw un sydd â diddordeb yn arholiadau’r haf, i rannu eu barn drwy lenwi holiadur byr ar-lein.

Bydd yr adborth rydym yn ei dderbyn o gymorth uniongyrchol wrth i ni fonitro’r system gymwysterau yng Nghymru.

Mae’r holiadur ar agor rhwng 8 Mai a 6 Gorffennaf. Dylid cymryd pum munud yn unig i’w lenwi, ac mae’n hollol ddienw – ni fyddwn yn gofyn am eich enw chi, nac enw eich canolfan/ysgol/coleg.

I lenwi’r holiadur, cliciwch yma