Eich Barn am Camau-STEM

Ydy ysgol chi wedi gwneud defydd o’r addodd hwn?

Byddwn yn ddiolchgar iawn petaech gystal â chwblhau holiadur di-enw a byr iawn, ar gyfer CAMAU STEM erbyn y 18 o Ragfyr, drwy’r ddolen gyswllt hon.

Rydym eisoes wedi dosbarthu copïau o’r adnodd dysgu hwn, am ddim, i bob un o 300+ Ysgolion Cynradd yng Ngogledd Cymru, ac mae hefyd wedi ei gynnwys mewn bwletin gan GwE, Dysg ar raglen deledu HENO ac ar gael ar y wefan adnoddau addysg – HWB.

CAMAU STEM yw’r datblygiad dwyieithog STEM cyntaf ar gyfer Bl 5 a 6 yng Nghymru. Mae’n cysylltu anghenion a negeseuon gan gyflogwyr rhanbarthol yn uniongyrchol gyda hyrwyddo a chadw sgiliau STEM ymhlith ein gweithlu a’r farchnad lafur lleol yn y dyfodol.

Mae’r Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, yn ei swyddogaeth fel y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol, yn ddiolchgar iawn am eich cydweithrediad llawn wrth geisio hyrwyddo negeseuon am sgiliau cyflogadwyaeth, sgiliau STEM a’r cyfleoedd i bobl ifanc weithio’n ddwyieithog yn niwydiannau a sectorau twf Gogledd Cymru.

Croeso i chi gysylltu â mi am ragor o wybodaeth neu drafodaeth am yr adnodd.

Diolch yn fawr iawn am gwblhau’r holiadur.

Ffion Jones

Senior Researcher North Wales Economic Ambition Board | Uwch Ymchwilydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Direct Number | Rhif Uniongyrchol: 
02920 84 6311
Mobile | Symudol: 07825 358408

E-mail | E-bost: ffion.jones@gyrfacymru.com
Website | Gwefan: www.northwaleseab.co.uk