Ewch i Weld: Rhyfel Byd Cyntaf

Gall ysgolion nawr wneud ceisiadau i fynd â dysgwyr i weithgaredd sy’n berthnasol i neu’n coffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf a hynny drwy gronfa Ewch i Weld. Bwriad y gronfa yw rhoi mynediad i ysgolion i brofiadau creadigol sy’n cyfoethogi’r addysgu.

Gellir gwneud cais am hyd at £1,000 unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn ac fe geir penderfyniad o fewn tair wythnos. Bydd y grant yn talu am 100% o’r costau. Nid oes raid i ysgolion gyd-ariannu.

Mae digwyddiadau’n digwydd ledled Cymru nawr ac yn parhau ymhell i mewn i 2018. Gall grant un-tro bychan, hyd at £1,000 o’r cynllun Ewch i Weld, ariannu ymweliad ag amgueddfa, perfformiad neu arddangosfa (ar thema’r Rhyfel Byd Cyntaf) ac i ymweld â safleoedd sy’n cynnal digwyddiadau coffáu. Gallwch ddod o hyd i enghreifftiau ar wefan Cymru’n Cofio 1914-1918. Hefyd, cadwch lygaid ar yr Ardal Dysgu Creadigol, mae digwyddiadau yn cael eu hychwanegu yno pan ddônt ar gael.

Gwneud cais nawr.