Grant Gwella Addysg

Diben y Grant Gwella Addysg (GGA) yw gwella deilliannau addysgol ar gyfer pob dysgwr a lleihau effaith amddifadedd ar ddeilliannau dysgwyr drwy:

  • gwella ansawdd addysgu a dysgu;
  • cael gwared â rhwystrau sy’n atal dysgu a gwella cynhwysiant;
  • gwella arweinyddiaeth mewn lleoliadau addysgol; a
  • gwella’r ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr ac ennyn diddordeb dysgwyr fwyfwy mewn dysgu.

Mae’r GGA yn cefnogi ein blaenoriaethau cenedlaethol ar gyfer ysgolion, gan gynnwys gwell deilliannau mewn llythrennedd a rhifedd a lleihau effaith amddifadedd ar ddeilliannau addysgol.

Mae’r GGA hefyd yn cefnogi’r amcanion strategol a amlinellir yn Cymwys am Oes, gweledigaeth hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg i ddysgwyr 3-19 oed yng Nghymru, drwy sicrhau gwell aliniad rhwng amcanion strategaeth a pholisi a gweithredu a chyflwyno. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y GGA, cysylltwch â’r sawl a nodir isod yn y lle cyntaf:

  • Am unrhyw ymholiadau am ddyrannu’r cyllid a sut y dylech gael mynediad ato, cysylltwch â’r tîm cyllid yn eich awdurdod lleol;
  • Am unrhyw ymholiadau am weithgareddau gwario cymwys, monitro ac arfarnu effeithiolrwydd eich gweithgareddau GGA o ran deilliannau dysgwyr, cysylltwch ag Ymgynghorydd Her eich ysgol.

 

Ceir rhagor o fanylion yn y dogfennau isod.