Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru 2018

Gan adeiladu ar lwyddiant y gwobrau y llynedd, mae’r enwebiadau ar gyfer Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru 2018 yn awr ar agor. Ac unwaith eto, rydym eisiau dathlu ymroddiad, ymrwymiad a gwaith caled athrawon ledled Cymru ac mae angen eich cymorth chi arnom.

Rydym eisiau eich help i ledaenu’r gair am y Gwobrau ac annog cymaint o enwebiadau â phosib, felly rydym wedi datblygu’r pecyn hwn sy’n cynnwys:

  • Sut gallwch chi helpu
  • Dyddiadau pwysig
  • Y categorïau
  • Sut mae enwebu
  • Enghraifft o bwt i gylchlythyr
  • Enghraifft o neges ar y cyfryngau cymdeithasol
  • Adnoddau i’w defnyddio ar eich sianelau

SUT GALLWCH CHI HELPU

Rhannwch y ddolen i’n gwefan newydd drwy eich rhwydweithiau er mwyn hyrwyddo’r Gwobrau ymysg dysgwyr, rhieni, cydweithwyr a chyflogwyr, gan annog pawb i enwebu gweithwyr addysg proffesiynol o bob rhan o Gymru sydd wedi gwneud gwahaniaeth go iawn yn eu hysgol neu leoliad addysg.

Dyma’r URL: llyw.cymru/gwobrauaddysgucymru

Lledaenwch y newyddion ar eich sianelau chi: o wefannau a chylchlythyrau, i’r cyfryngau cymdeithasol a phoster ar wal.

DYDDIADAU PWYSIG*

22 Medi 2017 – Enwebiadau ar agor

30 Tachwedd 2017 – Enwebiadau’n cau

Ebrill 2018 – Cyhoeddi’r rhestr fer

Mai 2018 – Seremoni Wobrwyo

*daw cyhoeddiad swyddogol am y rhestr fer a dyddiad y seremoni maes o law

Y CATEGORÏAU

  • Y defnydd gorau o Ddysgu Digidol
  • Pennaeth y Flwyddyn
  • Defnyddio’r Gymraeg mewn ffordd sy’n ysbrydoli
  • Athro Newydd Eithriadol
  • Hybu Cydweithio i Wella Cyfleoedd Dysgu
  • Rheolwr Busnes Ysgol/Bwrsar
  • Cefnogi Athrawon a Dysgwyr
  • Athro’r Flwyddyn
  • Hyrwyddo Lles Disgyblion, Cynhwysiant a Pherthynas â’r Gymuned

Mae disgrifiadau o’r categorïau, rhagor o wybodaeth ar feini prawf mynediad, a chyngor ar enwebu ar gael ar ein gwefan.

SUT MAE ENWEBU

Y ffordd rwyddaf i enwebu yw drwy ein ffurflen ar-lein. Gallwch weithio ar eich enwebiad yn eich amser eich hun, ei gadw wrth i chi fynd a’i gyflwyno ar y diwedd. Yna, byddwch yn cael neges e-bost yn dweud bod eich enwebiad wedi ein cyrraedd.

Os ydych eisiau llenwi ffurflen enwebu oddi-ar-lein, anfonwch neges e-bost i gwobrauaddysgu@llyw.cymru gan roi eich manylion cyswllt a’ch categori, a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi.
Bydd y cyfle i enwebu’n dod i ben am hanner nos, nos Iau 30 Tachwedd 2017.

ADNODDAU

Rydym wedi creu ffolder yn llawn asedau i’w defnyddio. Mae dolenni i bopeth yn y fan yma:

Asedau Cymdeithasol
Mae’r rhain wedi cael eu dylunio i annog enwebiadau ac i esbonio’r broses. Mae’n bosib defnyddio’r asedau gyda phob neges ar Facebook a Twitter.

Baner wedi’i Hanimeiddio Mae’n bosib defnyddio hon ar wefannau neu dudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol. Gobeithio y bydd yn annog pobl i chwilio am fwy o wybodaeth.

Poster 
Gallwch ei argraffu a’i osod yn eich ysgol neu weithle, neu gallwch ei ddefnyddio ar-lein.

Fideo 
Rydym wedi cynnwys fideos o Ysgrifennydd y Cabinet yn siarad am y rhaglen Wobrau a pha mor bwysig yw addysg dda, a phlant ysgol yn disgrifio eu hoff athrawon. Mae’n bosib defnyddio’r fideos ar wefannau, neu eu rhannu ar sianeli’r cyfryngau cymdeithasol.